Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg
Published: 08/12/2016
Ddydd Mawrth, 13 Rhagfyr, bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gymeradwyo
Cynllun Strategol Cymraeg mewn Addysg Sir y Fflint.
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio strategaeth genedlaethol ddrafft i gael
miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae Cyngor Sir y Fflint yn gefnogol iawn
i鈥檙 strategaeth hon ac felly鈥檔 gofyn i鈥檙 Cabinet gymeradwyo cynllun diwygiedig
y Gymraeg Mewn Addysg ar gyfer 2017-2020 ac atgyfnerthu ei ymrwymiad cryf ir
Gymraeg.
Mae cynllun Sir y Fflint yn ganlyniad i bartneriaeth gynhyrchiol rhwng
swyddogion yr awdurdod lleol, cynrychiolwyr o ysgolion cyfrwng Cymraeg a
Saesneg y sir a sefydliadau allweddol eraill sydd 芒 diddordeb mewn hyrwyddor
Gymraeg ac addysg cyfrwng Cymraeg. Mae鈥檙 unigolion hyn yn dod ynghyd mewn
fforwm o鈥檙 enw Fforwm Strategol Cymraeg mewn Addysg.
Dwedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor
Sir y Fflint:
鈥淢ae gan Sir y Fflint ymrwymiad cryf iawn ir Gymraeg an gweledigaeth ni yw
cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg o fewn ein sir. Byddwn yn cynorthwyo pobl o
bob oed i wella eu sgiliau Cymraeg a rhoi hyder iddyn nhw ddefnyddior iaith yn
eu bywydau pob dydd - yn y gwaith, yn y cartref, yn yr ysgol ac yn y gymuned.
鈥淢ae ein fforwm yn bartneriaeth gref gyda nodau clir a鈥檙 aelodau cywir, gan
gynnwys swyddogion Menter Iaith Sir y Fflint, Urdd Gobaith Cymru, Coleg Cambria
a chynrychiolaeth gan rieni a llywodraethwyr. Fel cadeirydd y pwyllgor, rydw
i鈥檔 hyderus y bydd ein cynllun yn llwyddo.鈥
Mae鈥檔 rhaid cyflwyno Cynllun Strategol Cymraeg Mewn Addysg Sir y Fflint
2017-2020 i Lywodraeth Cymru erbyn 20 Rhagfyr. Unwaith y derbynnir y
gymeradwyaeth derfynol, bydd y cynllun yn cael ei roi ar waith ar 1 Ebrill
2017.