Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Diweddariad ynglyn â鈥檙 Cynllun Gwella
  		Published: 08/12/2016
Ddydd Mawrth, 13 Rhagfyr, bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn derbyn 
diweddariad ynglyn 芒 chynnydd Cynllun Gwellar Cyngor ar gyfer 2016/17.
Pob blwyddyn maer Cyngor yn amlinellu ei flaenoriaethau ar gyfer gwelliant 
mewn Cynllun Gwella, gan weithio ar dargedau cyffredinol i ddatblygu 
gwasanaethau a chodi safonau byw ledled y sir. 
Mae鈥檙 adroddiad monitro sy鈥檔 cael ei gyflwyno ddydd Mawrth yn darparu asesiad 
canol blwyddyn ac yn dangos a ywr Cyngor ar y trywydd iawn i gael yr 
effeithiau a ddymunir. 
Mae uchafbwyntiau ariannol y flwyddyn hyd yma鈥檔 cynnwys: 
路 Codi 12 ty cyngor newydd ar safle Custom House yng Nghei Connah. Gorffennwyd 
y gwaith adeiladu fis yma, a鈥檙 rhain yw鈥檙 tai cyngor cyntaf i gael eu hadeiladu 
yng Nghymru ers cenhedlaeth. Ym mis Awst 2016 dechreuodd y gwaith adeiladu i 
godi 92 o dai cyngor a thai fforddiadwy ar safle Walks yn y Fflint, cyn y 
dyddiad a bennwyd yn wreiddiol. 
路 Mae cyflwyno Grantiau Cyfleusterau ir Anabl ar gyfer plant ac oedolion yn 
rhagori ar y targedau. 
路 Mae鈥檙 gwaith i uwchraddio tai Cyngor hefyd wedi rhagori cryn dipyn ar y 
targed o ran gosod ceginau ac ystafelloedd ymolchi newydd a gosod synwyryddion 
mwg.
路 Troswyd 86% o ymholiadau busnes yn fuddsoddiadau yn y sir gan arwain at 322 o 
swyddi newydd - 242 ym Mharth Menter Glannau Dyfrdwy a 5 yn y sector mentrau 
cymdeithasol, gan ychwanegu at y cyfanswm cronnol. Felly, hyd yma yn 2016/17 
mae 934 o swyddi newydd wedi eu creu.
路 Agorwyd chwe chaffi dementia yn y sir, ac mae tair tref bellach yn drefi 
鈥淐yfeillgar i Ddementia鈥, sef Bwcle, y Fflint ar Wyddgrug.
路 Mae dull partneriaeth rhagweithiol gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi 
Cadwaladr i ddefnyddio cronfeydd gofal canolraddol wedi cael effaith gadarnhaol 
ar sicrhau bod cleifion yn pontio鈥檔 rhwydd rhwng gwasanaethau ysbyty a 
gwasanaethau gofal cymdeithasol.
路 Rydym ni wedi rhagori鈥檔 sylweddol ar y targed i gefnogi pobl ifanc o oedran 
ysgol sydd yn y system cyfiawnder ieuenctid, drwy gynnig 25 awr o addysg, 
hyfforddiant neu gyflogaeth. Yn wir, rydym ni wedi cynorthwyo ddwywaith yn fwy 
o bobl ifanc. Rydym ni hefyd wedi rhagori ar y targed mewn perthynas 芒鈥檙 rheiny 
sy鈥檔 hyn nag oedran ysgol. Maer Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid yn gweithio 
gyda darparwyr allanol megis Groundworks a LIFT i ddatblygu cyfleoedd dysgu ar 
gyfer pobl ifanc yn y system cyfiawnder troseddol.
路 Mae Sir y Fflint wedi gweld gostyngiad yn nifer yr achosion o gam-drin 
domestig sy鈥檔 cael eu dwyn yn 么l i Gynhadledd Amlasiantaeth Asesu Risg ar gyfer 
adolygiad.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor:
鈥淒rwy ein Cynllun Gwella, rydym nin blaenoriaethu ardaloedd a gwasanaethau 
sy鈥檔 bwysig i鈥檔 cymunedau a鈥檔 trigolion, ac yn mesur pa mor dda rydym ni鈥檔 
gwneud pethau.
鈥淓r gwaethaf y pwysau ariannol parhaus, mae Cyngor Sir y Fflint yn parhau i fod 
yn uchelgeisiol, yn arloesol ac yn benderfynol o gyflawni ein blaenoriaethau, 
syn cynnwys cynorthwyo pobl i gael mynediad at dai fforddiadwy ac addas, 
addysg o ansawdd, hyfforddiant a chyflogaeth.鈥 
Dywedodd Colin Everett, Prif Weithredwr y Cyngor:
鈥淢ae鈥檙 perfformiad yn erbyn ein blaenoriaethau yn dystiolaeth dda o ba mor dda 
y mae ein Cyngor yn cyflawni鈥檙 pethau sydd o bwys mawr in cymunedau. 
鈥淒rwy fonitro Cynllun Gwellar Cyngor ar wahanol gyfnodau yn ystod y flwyddyn 
gallwn asesu a ydym ni鈥檔 mynd i gyrraedd y targedau a osodwyd i wella 
gwasanaethau er budd trigolion ac fe allwn wedyn ganolbwyntio ein hymdrechion 
ar ein blaenoriaethau lleol.鈥