Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Y Rhaglen Gyfalaf
Published: 08/12/2016
Ddydd Mawrth, 13 Rhagfyr, bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint ystyried a
chymeradwyo adroddiad ar Raglen Gyfalaf y Cyngor ar gyfer 2017/18 - 2019/20.
Yn bennaf, mae鈥檙 Rhaglen Gyfalaf yn cefnogi asedau seilwaith ac adeiladau (e.e.
priffyrdd ac ysgolion) ac yn buddsoddi mewn modelau gwasanaeth newydd neu rai
sy鈥檔 cael eu hail-fabwysiadu (e.e. hamdden a gofal cymdeithasol). Maer
buddsoddiadau cyfalaf arfaethedig yn cyd-fynd 芒 chynlluniau busnes y
gwasanaethau ar Cynllun Gwella.
Dyma rai or buddsoddiadau allweddol:
路 Mae Ysgol Uwchradd Castell Alun ac Ysgol Gynradd Glan Aber wedi eu nodi fel
yr ysgolion sydd 芒r anghenion mwyaf, ac angen estyn ac ailfodelu鈥檙 adeiladau
presennol. Mae cyfanswm o 拢4.6 miliwn wedi ei ddyrannu ar gyfer y gwaith yng
Nghastell Alun a bron i filiwn o bunnau ar gyfer Glan Aber.
o Bydd Ysgol Uwchradd Castell Alun yn cael ei hestyn a bydd uned Celf a Dylunio
Technoleg newydd dri llawr yn cael ei chodi a bydd ardaloedd eraill yn cael eu
hailfodelu. Bydd y gwaith yn dechrau yn ystod blwyddyn ariannol 2018/19.
o Bydd Ysgol Gynradd Glan Aber, Bagillt yn gweld y neuadd yn cael ei gweddnewid
i ddarparu dau ofod dysgu addas a bydd neuadd newydd yn cael ei chodi, sy鈥檔
briodol ar gyfer nifer y disgyblion, ynghyd ag estyniadau llai i dair ystafell
ddosbarth. Bydd y gwaith yn dechrau yn ystod blwyddyn ariannol 2017/18.
路 Mae 拢4 miliwn wedi ei neilltuo ar gyfer codi cyfleuster gwasanaethau dydd
anableddau dysgu newydd sbon yn lle Canolfan Glanrafon yn Queensferry. Mae hyn
yn rhan o ymrwymiad y Cyngor i ddarparu gofal dydd ar gyfer defnyddwyr
gwasanaeth.
路 Grantiau Cyfleusterau ir Anabl 鈥 mae dyraniadau blynyddol o bron i 拢1.5
miliwn wedi eu nodi ar gyfer addasiadau, gan alluogi trigolion i barhau i fyw鈥檔
annibynnol yn eu cartrefi eu hunain.
路 Bydd cynnydd o 拢100,000 o 2017/18 ymlaen er mwyn cyflwyno rhaglen uwchraddio
toiledau mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.
路 Llefydd chwarae a chaeau chwarae synthetig 鈥 mae dyraniad ychwanegol o bron i
拢900,000 dros dair blynedd wedi ei nodi i dalu am offer chwarae newydd,
uwchraddio llefydd chwarae a gosod wynebau synthetig newydd ar gaeau chwarae
sydd mewn cyflwr gwael.
路 Byddwn hefyd yn gwella canolfannau hamdden a llyfrgelloedd, a fydd hefyd yn
gwella鈥檙 gwasanaethau a ddarperir. Cyfanswm y buddsoddiad ar gyfer y
gwelliannau hyn yw 拢454,000.
Dywedodd y Cyng. Aaron Shotton, Aelod Cabinet Cyllid:
鈥淓r gwaethaf yr her ariannol sylweddol rydym ni鈥檔 ei hwynebu, rydym ni wedi
llunio rhaglen gyfalaf glir ac uchelgeisiol ar gyfer y pedair blynedd nesaf ar
gyfer seilwaith ac ysgolion. Rydw i鈥檔 falch iawn ein bod ni鈥檔 gallu gwneud y
gwelliannau hyn yn ein canolfannau hamdden a鈥檔 llyfrgelloedd, yn ogystal 芒
buddsoddi yn ein hysgolion. Mae hyn yn dangos bod Sir y Fflint yn gyngor
arloesol sy鈥檔 meddwl am y dyfodol ac yn buddsoddi yn lles y sir.鈥