Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Rheolau newydd yn dod i rym yng Nghymru i sicrhau bod busnesau tecawê yn hyrwyddo eu sgôr hylendid bwyd ar ddeunyddiau cyhoeddusrwydd
  		Published: 30/11/2016
O 28 Tachwedd 2016, tair blynedd ers ir Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd statudol 
ddod i rym yng Nghymru, bydd yn ofynnol i fusnesau bwyd tecawê gyhoeddi 
datganiad dwyieithog ar ddeunyddiau cyhoeddusrwydd copi caled penodol.
Os yw taflen neu fwydlen bwyty tecawê yn dangos bwyd ar werth, faint maer bwyd 
yn ei gostio a ffordd o archebur bwyd heb orfod ymweld âr safle, bydd hefyd 
angen iddi gynnwys datganiad syn atgoffa cwsmeriaid y gallant wirio sgôr 
hylendid y busnes ar y wefan sgorio hylendid bwyd http://ratings.food.gov.uk/. 
Bydd y datganiad hefyd yn atgoffa defnyddwyr bod modd iddynt ofyn ir busnes 
bwyd am eu sgôr hylendid bwyd wrth archebu.
Cymru oedd y wlad gyntaf yn y Deyrnas Unedig i gyflwyno cynllun sgorio hylendid 
bwyd statudol ym mis Tachwedd 2013, gydar Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 
2013 yn ei gwneud yn orfodol i fusnesau bwyd ddangos eu sgôr hylendid bwyd ar 
eu safle.
Ers ei gyflwyno, maer cynllun wedi cael effaith gadarnhaol ar safonau hylendid 
yng Nghymru. Mae dros 94% o fusnesau bwyd yng Nghymru bellach â sgôr o 3 
(boddhaol ar y cyfan) neu uwch. 
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, yr Aelod Cabinet dros Warchod y Cyhoedd: 
“Ers ei gyflwyno, maer Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd wedi mynd o nerth i nerth, 
ac mae wedi bod yn allweddol wrth gynyddu safonau hylendid bwyd.  Ni ellid, ac 
ni ddylid, cefnogi unrhyw newid a oedd yn ceisio tanseilio cynllun mor 
llwyddiannus.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i: 
https://www.food.gov.uk/enforcement/enforcework/hygienescoresresources/food-hygi
ene-rating-scheme-in-wales-takeaway-businesses-0 – cliciwch ar ‘Cymraeg