天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Tybaco anghyfreithlon wedi ei feddiannu mewn cyrch aml asiantaeth

Published: 24/11/2016

Mae ymgyrch ar y cyd rhwng Safonau Masnach Sir y Fflint, Wardeiniaid Cymdogaeth a Heddlur Gogledd wedi arwain at feddiannu tybaco anghyfreithlon. Meddiannwyd tua 8,000 o sigar茅ts yn ogystal 芒 thybaco sy鈥檔 cael ei rowlio gyda llaw o siopau yn y Fflint a Threffynnon. Mae ymchwiliadau i ffynhonnell y sigar茅ts yn parhau. Cefnogwyd yr ymgyrch gan gwn arogli tybaco arbenigol a ddaeth o hyd ir tybaco oedd wedi ei guddio tu 么l i wal ffug ac mewn nenfwd ffug uwchben toiled. Mae masnach tybaco anghyfreithlon weithiau鈥檔 cael ei weld fel trosedd heb ddioddefwr, ond mae hynny ymhell o fod yn wir. Yn aml mae鈥檙 rhai sy鈥檔 gwerthu tybaco anghyfreithlon yn targedu plant a phobl ifanc er mwyn eu gwneud yn gaeth i ysmygu, nid ydynt yn poeni i bwy maent yn gwerthu cyn belled 芒u bod yn gwneud arian. Mae gan y fasnach tybaco anghyfreithlon gysylltiadau cryf gyda gangiau trosedd a throseddol gan gynnwys y rhai sy鈥檔 ymwneud 芒 delio cyffuriau, masnachu pobl a hyd yn oed yn helpu i ariannu terfysgaeth. Mae gwerthu tybaco anghyfreithlon hefyd yn dwyn oddi wrth y trethdalwr. Mae hwn yn arian a allai gael ei wario ar wasanaethau cyhoeddus pwysig fel ysgolion, ysbytai a gofal i鈥檙 henoed. Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer Gwarchod y Cyhoedd: 鈥淢ae gwerthu tybaco rhad anghyfreithlon yn ei gwneud yn haws i bobl ifanc ddechrau ysmygu a dod yn gaeth ac yn eu gwneud yn fwy anodd i ysmygwyr sydd am roi鈥檙 gorau iddi i dorri鈥檙 arferiad. Yn bell o fod yn drosedd heb ddioddefwr, maer fasnach mewn tybaco anghyfreithlon yn arwain at ganlyniadau difrifol i drosedd ac iechyd yn y gymuned ac yn achosi niwed economaidd i fusnesau lleol cyfreithlon.鈥 Dywedodd y Rhingyll Mike Wilson o D卯m Cymdogaeth Ddiogel Gogledd Sir y Fflint: 鈥淢ae hwn yn ganlyniad gwych ir asiantaethau hynny oedd yn rhan o hyn. Mae鈥檔 dangos drwy gydweithio ein bod yn gallu cael effaith gwirioneddol mewn ymdrin 芒 materion o fewn y gymuned. Fe fyddwn i鈥檔 annog unrhyw un a all gynnig gwybodaeth am y math yma o drosedd i gysylltu 芒 Heddlu鈥檙 Gogledd drwy sgwrs fyw ar y we http://www.north-wales.police.uk/contact/live-chat-support?lang=cy-gb, drwy ffonio 101 neu drwy Crimestoppers ar 0800 555 111.鈥 Dywedodd Richard Powell, Arweinydd T卯m Sir y Fflint ar gyfer Ymchwiliadau Safonau Masnach a Diogelwch Cymunedol: 鈥淢ae鈥檙 canlyniad gwych hwn yn dangos cydweithio partneriaeth rhagorol rhwng asiantaethau gorfodi wrth i ni barhau 芒鈥檔 llwyddiant yn lleihau鈥檙 tybaco anghyfreithlon sydd ar gael. Mae llai o bobl yn prynu tybaco anghyfreithlon a llai o bobl bellach yn barod iw anwybyddu. Gall pobl wneud gwahaniaeth gwirioneddol i helpu i gadw mwy o dybaco anghyfreithlon oddi ar y strydoedd drwy roi gwybod i鈥檙 awdurdodau amdano. Mae angen i ni barhau i roi pwysau ar y rhai sy鈥檔 parhau i鈥檞 werthu.鈥 Gall unrhyw un sydd am roi gwybod i Safonau Masnach am dybaco anghyfreithlon sy鈥檔 cael ei werthu wneud hynny drwy ffonio 03454 040506. Sigar茅ts neu dybaco syn cael ei rowlio 芒 llaw sydd wedi eu smyglo neu鈥檔 ffug yw cynnyrch tybaco anghyfreithlon ac nid ydynt yn ddarostyngedig i unrhyw reolaethau ynglyn 芒鈥檜 cyfansoddiad. Or chwith ir dde: PCSO Andy Knowles, PCSO Helen Whittingham a Claire Edge Safonau Masnach Sir y Fflint