Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Gwobr Ysgolion Iach
  		Published: 25/11/2016
Un o鈥檔 ysgolion uwchradd lleol yw鈥檙 gyntaf yn yr ardal i dderbyn y Wobr Ansawdd 
Genedlaethol gan Ysgolion Iach.
Ysgol Uwchradd Alun yw鈥檙 ysgol uwchradd gyntaf o bob rhan o Sir y Fflint a 
Wrecsam i gyflawni鈥檙 Wobr Ansawdd Genedlaethol ar bymthegfed ysgol yng Nghymru.
Maer Cynllun Ysgolion Iach yn fenter genedlaethol a ariennir gan Iechyd 
Cyhoeddus Cymru ac mae鈥檔 cydnabod ymrwymiad ysgol i iechyd a lles.
Dwedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid Cyngor 
Sir y Fflint:
 鈥淵 Wobr Ansawdd Genedlaethol ywr anrhydedd uchaf o dan y cynllun ac mae Ysgol 
Alun wedi treulio mwy na 14 mlynedd yn gosod iechyd a lles yng nghalon yr hyn y 
maent yn ei wneud.  Mae hon yn gamp enfawr ir ysgol ac yn rhywbeth yr ydym yn 
falch iawn ohono fel sir.鈥
Daeth dros 100 o gynrychiolwyr disgyblion o wahanol grwpiau disgyblion ar draws 
yr ysgol (gan gynnwys y rhai or pedwar Cyngor Ty, Cyngor yr Ysgol, Ecosgolion 
a鈥檙 Grwp Gweithredu ar Faeth yn yr Ysgol) ynghyd i ddathlur cyflwyniad 
arbennig.   Cyflwynwyd y Wobr i鈥檙 ysgol gan Gadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y 
Cynghorydd Peter Curtis.
Dywedodd Jane Cooper, Pennaeth yn yr ysgol:
 鈥淭refnir y digwyddiad dyrchafol ac ysbrydoledig hwn gan gynllun Ysgolion Iach 
Cyngor Sir y Fflint.  Nod heddiw yw amlygu gwaith t卯m ardderchog ein holl 
ddisgyblion ac athrawon, ac rwyn hynod o falch o fod yr ysgol gyntaf yn yr 
ardal i dderbyn y wobr hon - da iawn i bawb syn gysylltiedig. 鈥
Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid Ian Budd, Y Cynghorydd Peter Curtis - 
Cadeirydd y Cyngor ar Cynghorydd Chris Bithell - Aelod Cabinet dros Ieuenctid 
ac Addysg, yn dathlu llwyddiant yr Wyddgrug Ysgol Alun gyda disgyblion, 
athrawon, staff a llywodraethwyr ynghyd 芒 Claire Sinnott, Uwch Ymarferydd 
Ysgolion Iach