Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cynllun Trosglwyddo Asedau Cymunedol Canolfan Hamdden Treffynnon a Model Cyflawni Amgen Hamdden a Llyfrgelloedd
  		Published: 21/11/2016
Yn ei gyfarfod ar 15 Tachwedd, ystyriodd Cabinet Cyngor Sir y Fflint adroddiad 
ar gynnydd y Model Cyflawni Amgen ar gyfer Hamdden a Llyfrgelloedd.
 
Un o ystyriaethau allweddol cyfarfodydd blaenorol y Cabinet oedd ymgysylltiad 
ac ymrwymiad y staff rheng flaen ir Model Cyflawni Amgen arfaethedig. 
Siaradodd y staff a fynychodd cyfarfod mis Mai鈥檙 Cabinet am eu hymrwymiad i鈥檙 
cwmni cydfuddiannol arfaethedig a arweinir gan weithwyr. 
 
Cytunodd y Cabinet ar gynnig i gynnwys y Gwasanaeth Amgueddfeydd o fewn y 
sefydliad newydd gan nad oedd unrhyw ddewis arall ar gael ir gwasanaeth fod yn 
rhan o Ymddiriedolaeth Amgueddfeydd leol.   
 
Cytunwyd hefyd i gyflwyno cynllun gweithredu terfynol y sefydliad newydd i鈥檙 
Cabinet ym mis Rhagfyr a bod pleidlais y staff yn cael ei chynnal ar 么l y 
cyfarfod hwn. Hefyd, penderfynwyd newid y dyddiad sefydlu i fis Gorffennaf 2017.
 
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer 
Gwasanaethau Hamdden:
 
鈥淏ydd sefydlur sefydliad newydd ym mis Gorffennaf 2017 yn caniat谩u cyfnod 
cysgodol o chwe mis, gyda bwrdd a th卯m rheoli cysgodol yn dechrau gweithio 
ddiwedd mis Ionawr 2017. Mae hon yn amserlen realistig ac yn sicrhau y gellir 
gwneud yr arbedion a gyllidebwyd ar eu cyfer yn 2017/18 heb orfod cau 
cyfleusterau, sy鈥檔 gryn dipyn o gamp o ystyried y sefyllfa economaidd 
bresennol.鈥
 
Yn yr un cyfarfod, bu i鈥檙 Cabinet hefyd edrych ar y cynnydd mewn perthynas 芒 
Chynllun Trosglwyddo Asedau Cymunedol Canolfan Hamdden Treffynnon, a gytunwyd 
arno ym mis Gorffennaf.
 
Maer adroddiad yn nodi cynnydd y grwp cymunedol, sy鈥檔 cynnwys ymgysylltu ac 
ymgynghori 芒 staff, corffori鈥檙 ganolfan fel Sefydliad Elusennol Corfforedig a 
thrafod gyda chynghorau tref a chymuned.
 
Meddai鈥檙 Cynghorydd Jones:
 
鈥淵n seiliedig ar y gwaith y maer grwp cymunedol wedi ei wneud hyd yma a 
chymhlethdod y gwaith sydd angen ei wneud i sicrhau bod y trosglwyddiad hwn yn 
llwyddiannus, maer Cyngor wedi cytuno i drosglwyddo鈥檙 ased fesul cam rhwng 31 
Rhagfyr 2016 ac 1 Mawrth, 2017.鈥