Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Adeiladu cartrefi newydd, a buddsoddi yn ein cymuned
  		Published: 17/11/2016
Mae ymrwymiad Cyngor Sir y Fflint i adeiladu tai cyngor newydd a thai 
fforddiadwy o dan ei Raglen Tai Strategol ac Adfywio uchelgeisiol (SHARP) yn 
parhau i fod o fudd ir gymuned leol. Yn ogystal 芒 diwallu anghenion tai lleol, 
maer datblygiadau yn hen Ysgol Custom House Lane, Cei Connah a The Walks, y 
Fflint hyd yma wedi gweld buddsoddiad sylweddol yn y gymuned leol.
 
Mae Wates Residential, partner datblygu Cyngor Sir y Fflint, wedi cofnodi鈥檙 
buddsoddiad hwn ers i鈥檙 datblygiad cyntaf ddechrau ar safle Custom House Lane, 
Cei Connah ym mis Mai 2016. Mae dros 194 o bobl leol wedi elwa o fentrau 
cyflogaeth a hyfforddiant o鈥檙 ddau ddatblygiad yng Nghei Connah a鈥檙 Fflint ac 
mae busnesau lleol wedi elwan fawr oherwydd ymrwymiad SHARP i gaffael nwyddau, 
gwasanaethau a masnach lleol lle bynnag y bon bosibl.  Mae Wates Residential 
hefyd wedi bod ynghlwm 芒 nifer o ddigwyddiadau er budd elusennau lleol ac 
achosion cymunedol ac yn aml mae hyn wedi bod ar sail wirfoddol gan staff Wates 
Residential.
Dywedodd Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Bernie Attridge:
 鈥淢aen wirioneddol braf gweld yr effaith gadarnhaol y mae adeiladu tai cyngor 
newydd a thai fforddiadwy newydd yn Sir y Fflint yn ei chael ar y gymuned 
leol.  Rwyf wrth fy modd, mewn cyfnod mor fyr yn y rhaglen pum mlynedd bod 
Wates Residential wedi profi eu hymrwymiad tuag at fuddsoddi yn y gymuned leol 
yn Sir y Fflint.鈥
Dywedodd Lee Sale, Cyfarwyddwr Busnes, Wates Residential:
Gydan gwaith datblygu ar y safle yn symud ymlaen ar gyflymder, maen amser 
gwych i ganolbwyntio ar yr effaith gadarnhaol y mae buddsoddiad tai sylweddol 
Cyngor Sir y Fflint yn ei chael ar y gymuned leol. Mae creu cyfleoedd 
hyfforddiant a chyflogaeth ar gyfer ein cymdogion ar draws Sir y Fflint bob 
amser wedi bod yn flaenoriaeth sylweddol i Wates Residential ac maen rhoi 
balchder i mi fod eisoes wedi gweld cymaint o bobl leol yn elwa ar ein gwaith.鈥