天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cael Gwared â Thrawsffobia

Published: 18/11/2016

Bydd fflag yn cael ei chodi y tu allan i Neuadd y Sir heddiw (18 Tachwedd) i gynrychioli Diwrnod y Cofio Trawsrywiol er cof am yr holl unigolion trawsrywiol sydd wedi marw o drais trawsffobig. Cychwynnwyd Diwrnod y Cofio Trawsrywiol, sy鈥檔 cael ei gynnal ar 20 Tachwedd pob blwyddyn, ym 1999, pan ddaeth yn amlwg bod niferoedd benodol fawr o bobl Drawsrywiol yn cael eu llofruddio. Mae Cyngor Sir y Fflint yn cymryd rhan yn y diwrnod hwn i ddangos ein hymrwymiad i hybu cydraddoldeb a chael gwared 芒 gwahaniaethu a throseddau casineb. Er bod yna ddeddfwriaeth ar gydraddoldeb i amddiffyn pobl Drawsrywiol, mae trawsffobian parhaun broblem fawr mewn cymdeithas. Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol Cyngor Sir y Fflint: 鈥淢ae pobl Drawsrywiol yn parhau i gael eu camddeall i raddau helaeth, felly, er bod y fflag yn un ffordd o gofior rhai sydd wedi marw, mae hefyd yn gyfle i godi ymwybyddiaeth ac i atgoffa pobl o wahaniaethu, rhagfarn a pherygl mae pobl Drawsrywiol yn eu wynebu pob dydd. Mae hefyd, yn amserol iawn, yn atgoffa pobl o wahaniaethu, aflonyddu a throseddau casineb yn erbyn grwpiau eraill ein cymdeithas, fel pobl anabl a phobl sy鈥檔 lesbiaid, hoyw neu鈥檔 ddeurywiol.鈥� I roi gwybod am Drosedd Casineb, ffoniwch Heddlu Gogledd Cymru ar 101 (999 os ydyw鈥檔 argyfwng) neu linell Gymorth 24/7 Am Ddim Cymorth i Ddioddefwyr ar 0300 30 31 982, neu rhowch wybod ar-lein ar: www.reporthate.victimsupport.org.uk.