Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dathlu Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd yn lleol
Published: 16/11/2016
Cynhaliodd Rhwydwaith Entrepreneuriaeth Busnes Sir y Fflint (RhEB) ddigwyddiad
yn ystod Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd, rhwng 14 a 20 Tachwedd.
Roedd y digwyddiad a gynhaliwyd ym Mhrifysgol Glyndwr, ac a gafodd ei drefnu
gan Cymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint, yn cynnwys siaradwyr o lywodraeth leol a
chenedlaethol a鈥檙 Brifysgol, yn ogystal ag entrepreneuriaid lleol.
Wythnos Entrepreneuriaeth y Byd yw dathliad mwyaf y byd o arloeswyr a chrewyr
gwaith. Yn ystod un wythnos bob mis Tachwedd, mae miloedd o ddigwyddiadau mewn
160 o wledydd yn ysbrydoli miliynau o bobl i gymryd rhan mewn gweithgaredd
entrepreneuraidd tran eu cysylltu i gydweithwyr posibl, mentoriaid a hyd yn
oed buddsoddwyr.
Caiff y Rhwydwaith Entrepreneuriaeth Busnes, a sefydlwyd yn 2012 gyda
chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, ei gadeirio gan ddyn busnes o Sir y Fflint,
Syr Askar Sheibani, Prif Weithredwr cwmni trwsio telathrebu Comtek Network
Systems UK syn seiliedig ar Lannau Dyfrdwy.
Wrth agor y digwyddiad, dywedodd Mr Sheibani:
鈥淢ae ein rhwydwaith hyd yma wedi helpu dros 150 o unigolion talentog i
wireddu鈥檜 huchelgais mewn busnes. Mae鈥檙 busnesau sydd wedi鈥檜 creu gan yr
unigolion hyn yn dal i gael effaith bositif ar gymunedau lleol, diwydiant ac
economi Cymru.
鈥淚 gyfraniad hael y gymuned fusnes leol a chefnogaeth hanfodol Llywodraeth
Cymru a Chyngor Sir y Fflint y mae鈥檙 diolch am lwyddiant aruthrol y fenter
hon. Mae rhaglen fentora unigryw BEN wedi ennyn sylw a chlod o bob rhan o鈥檙
wlad a鈥檔 hamcan nawr yw rhyddhau鈥檙 model arloesol hwn ledled Cymru a鈥檙 Deyrnas
Unedig.
鈥淩ydyn ni鈥檔 gwbl hyderus y gwnaiff digwyddiad heddiw roi hwb i fomentwm ein
hymgyrch, gan gynyddu鈥檌 heffaith wrth roi grym i entrepreneuriaid dirifedi yng
Nghymru a thu hwnt.鈥
Meddai Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
鈥淢ae entrepreneuriaid yn bwysig iawn i economi Cymru ac mae ganddynt y
potensial i gynyddu lefelau gwaith a ffyniant yn sylweddol.
鈥淩wy鈥檔 benderfynol y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i
annog, cefnogi a datblygu gweithgarwch entrepreneuraidd ledled Cymru, ac mae
hyn yn cynnwys ysbrydoli y genhedlaeth nesaf o ddynion a merched busnes newydd
i wireddu eu breuddwydion ym myd busnes.
鈥淣id oes amheuaeth y gall dechrau busnes fod yn gam enfawr sy鈥檔 codi ofn, felly
mae mentrau fel BEN a鈥檔 gwasanaeth Busnes Cymru ar ei newydd wedd, wedi
gwariant o 拢86 miliwn, yn amhrisiadwy wrth ddarparu鈥檙 sicrwydd hwnnw y mae mawr
ei angen, a help llaw i鈥檔 entrepreneuriaid newydd.
鈥淢ae ymweliad heddiw yn dangos i bawb, os oes gennych yr awydd, a鈥檙 syniad, bod
cymorth ar gael i helpu ichi droi鈥檙 syniad hwnnw yn llwyddiant gwirioneddol.
Fel Llywodraeth, rydym yn canolbwyntio ar hybu mwy o fentrau arloesol ac mae
angen inni barhau i gefnogi entrepreneuriaid mwy uchelgeisiol, arloesol a
phenderfynol yng Nghymru i lwyddo.鈥
Bu Bethan Williams o ABC Amser Babi Cymraeg, sef 鈥済raddedig鈥 diweddar o Glwb
Mentergarwch Sir y Fflint, syn cael ei redeg gan Cymunedau yn Gyntaf Sir y
Fflint, yn siarad yn y digwyddiad hefyd. Meddai Bethan, a enillodd grant
mentergarwch lleol yn ddiweddar:
鈥淢ae ABC yn cynnig cymorth a chefnogaeth i fagu plant yn ddwyieithog drwy
gyfrwng y Gymraeg a鈥檙 Saesneg. Rydym yn cynnig ystod eang o weithgareddau gan
gynnwys tylino babanod, yoga i fabanod, sblasio ac odli ac amser stori ac
odli. Maer cymorth y mae Clwb Mentergarwch wedi ei ddarparu wedi bod yn
eithriadol, ni allwn fod wedi gwneud hyn heb eu cymorth a鈥檜 harweiniad a byddwn
yn argymell i unrhyw un syn ystyried sefydlu eu busnes eu hun i geisio cael eu
cymorth. Dydw i heb edrych yn 么l ers sefydlur busnes, ac mae鈥檙 busnes yn
ffynnu.鈥
I gloi鈥檙 digwyddiad, dywedodd Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Aaron
Shotton:
鈥淩wyn falch iawn o fod yma heddiw. Daw llwyddiant y rhwydwaith hwn oherwydd
entrepreneuriaid, y llywodraeth, partneriaid academaidd a grwpiau ieuenctid a
chymuned yn cydweithio i sicrhau fod pethau鈥檔 digwydd. Un llwyddiant
gwirioneddol yw Clwb Mentergarwch Sir y Fflint 鈥 mae鈥檙 cyfleoedd a chymorth
mentora sy鈥檔 cael eu cynnig yn ffantastig - ble arall fyddech chi鈥檔 dod o hyd i
arweinwyr busnes sy鈥檔 rhoi anogaeth i bobl leol? Fel Cyngor, rydym yn gwybod
pa mor bwysig yw hi i ddarparur gefnogaeth honno i entrepreneuriaid newydd a
fydd yn eu tro o fudd mawr i economi Sir y Fflint.鈥
Ymhlith y sefydliadau syn cefnogir digwyddiad y mae Cymunedau yn Gyntaf,
Canolfan Byd Gwaith, Cyngor Sir y Fflint, Gyrfa Cymru, Coleg Glannau Dyfrdwy,
Prifysgol Glyndwr, a Chyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint