Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Clwb Swyddi yn lansio yn yr Wyddgrug
  		Published: 10/11/2016
Bydd Clwb Swyddi yr Wyddgrug yn cynnal eu sesiwn gyntaf ddydd Mercher 30 
Tachwedd yn Llyfrgell yr Wyddgrug rhwng 10am a 12 hanner dydd.  
Maer Clwb yn cael ei gynnal gan Gymunedau yn Gyntaf Sir y Fflint ac mae鈥檙 
lansiad hwn yn dilyn llwyddiant y clybiau swyddi, a gefnogir hefyd gan 
Gymunedau yn Gyntaf, yn Llyfrgell Treffynnon, Cei Connah, a鈥檙 Fflint, Campws 
Cymunedol John Summers a Chyngor ar Bopeth Cei Connah.
Maer Clwb yn agored i unrhyw un a gallwch alw heibio a chael:
路     Cymorth a chefnogaeth i chwilio am swyddi a gwneud cais 
路     Cyngor gyda CVs a chyfweliadau 
路     Cyfle i ddarganfod pa gyfleoedd dysgu a gweithgareddau sydd ar gael yn yr 
ardal, a
路     Gwybodaeth am yr asiantaethau cefnogi  
Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros 
Ddatblygu Economaidd:
鈥淢ae Cymunedau yn Gyntaf yn Sir y Fflint yn parhau i weithion galed ar draws y 
sir i roi cymorth ir rhai sydd angen help wrth iddynt chwilio am gyflogaeth 
addas yn y farchnad swyddi heddiw. Byddwn yn annog pobl i alw heibio a gweld 
beth sydd gan y clwb swyddi yn yr Wyddgrug iw gynnig. I gael rhagor o 
wybodaeth, ffoniwch Teresa Allen ar 01244 846090.