天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Buddsoddiad cyfalaf mewn goleuadau stryd

Published: 11/11/2016

Ar 15 Tachwedd bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn ystyried adroddiad syn nodi ffyrdd o arbed arian a gwella goleuadau stryd y sir. Fel rhan o ymrwymiad parhaus y Cyngor i uwchraddio ei stoc o dros 20,000 o oleuadau stryd a chael golau stryd gwyrddach a mwy ynni effeithlon, bydd cais yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru am gyllid i uwchraddio dros 12,000 o unedau golau stryd a gosod goleuadau LED mwy modern dros y ddwy flynedd nesaf. Mae goleuadau LED yn lleihau costau cynnal a chadw oherwydd eu bod yn para鈥檔 hirach ac yn defnyddio llai o ynni o lawer na goleuadau confensiynol. Bydd gosod goleuadau newydd hefyd yn gwella 么l-troed carbon Sir y Fflint yn sylweddol ac yn lleihau biliau ynni a threth carbon y Cyngor. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet yr Amgylchedd: 鈥淩ydw i鈥檔 cefnogir cais i Lywodraeth Cymru yn llwyr ac yn edrych ymlaen at ymateb buan er mwyn dechrau ar y gwaith o uwchraddio ein goleuadau. Bydd y goleuadau newydd yn fwy ynni effeithlon ac oherwydd y byddan nhwn para鈥檔 hirach bydd nifer y diffygion ar y rhwydwaith goleuadau yn llai, gan wella diogelwch ar y ffyrdd ac arbed mwy o arian yn y tymor hir. Oherwydd y bydd y goleuadau newydd yn defnyddio llai o ynni o lawer na鈥檙 unedau presennol, ni fydd yn rhaid i鈥檙 Cyngor wneud dewisiadau anodd ar ddyfodol y gwasanaethau goleuadau stryd a bydd hefyd yn caniat谩u ir Cyngor ail-edrych ar yr ardaloedd preswyl lle penderfynwyd rhai blynyddoedd yn 么l i ddiffodd rhai goleuadau yn y nos. 鈥淢ae鈥檙 cais yn dod i gyfanswm o 拢3.2 miliwn ac os bydd Llywodraeth Cymru yn ei gymeradwyo bydd y gwaith yn dechrau fis Ebrill 2017 ac yn cael ei wneud fesul cam dros gyfnod o ddwy flynedd. Bydd y goleuadau yn cael eu gosod i sicrhau lefel benodol o ddisgleirdeb a goleuo a fydd, yn y rhan fwyaf o achosion, yn arwain at welliant gweledol.鈥�