Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyngor 鈥渃yfeillgar i rieni maeth鈥 cyntaf Cymru
Published: 11/11/2016
Bydd gofyn i Gabinet Cyngor Sir y Fflint gefnogi a chymeradwyo polisi a fydd yn
golygu mai Sir y Fflint fydd y cyngor cyntaf yng Nghymru i fod yn 鈥済yfeillgar i
rieni maeth鈥.
Maer Cyngor hefyd yn annog mwy o fusnesau lleol i fabwysiadu trefniant
gweithio hyblyg a chefnogol ar gyfer unrhyw aelod o staff syn maethu drwyr
Cyngor.
Mae yna 64,000 o blant mewn gofal yn y Deyrnas Unedig, a chyda plentyn yn dod i
mewn i ofal bob 20 munud mae angen dybryd am fwy o ofalwyr maeth.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol
Cyngor Sir y Fflint:
鈥淩ydym ni鈥檔 falch iawn mai ni yw cyngor 鈥渃yfeillgar i rieni maeth鈥 cyntaf
Cymru. Rydym ni鈥檔 cynnig pum niwrnod ychwanegol o wyliau blynyddol i鈥檔
gweithwyr er mwyn iddyn nhw ymgymryd 芒r hyfforddiant i faethu drwom ni. Ar 么l
cael eu cymeradwyo fel gofalwyr maeth, byddan nhw鈥檔 gallu cymryd pum niwrnod
ychwanegol y flwyddyn i fynychu cyfarfodydd a hyfforddiant pellach.
鈥淩han or ymgyrch genedlaethol i annog mwy o bobl i faethu yw chwalu鈥檙 chwedl鈥
nad ydych chi鈥檔 cael gweithio os ydych chi鈥檔 ofalwr maeth. Nod y polisi yma yw
cefnogi鈥檙 gweithwyr sydd eisoes yn ofalwyr maeth ac annog y rheiny sy鈥檔
ystyried dod yn ofalwyr maeth i gymryd y cam hwnnw, gan ddod yn fodelau r么l
cadarnhaol ac ehangur gronfa o ofalwyr maeth sydd ar gael. Bydd hyn yn golygu
y gellir paru mwy o blant mewn gofal gydar gofalwyr maeth gorau ar eu cyfer.
Gall cefnogaeth y cyflogwr wneud gwahaniaeth mawr i鈥檙 rheiny sy鈥檔 penderfynu
maethu ai peidio.鈥
Mae llawer o ofalwyr maeth yn cyrraedd oed ymddeol ac mae hynny鈥檔 mynd i roi
rhagor o bwysau ar y gronfa o ofalwyr maeth yn y dyfodol. I fynd ir afael 芒r
heriau maethu cenedlaethol, ac i geisio annog mwy o weithwyr i ddod yn ofalwyr
maeth, maer Llywodraeth wedi galw ar gyflogwyr i fod yn ystyriol o rieni
maeth.
Maer polisi a ddatblygwyd gan y Rhwydwaith Maethu yn annog cyflogwyr i
ddarparu hyblygrwydd ac amser i ffwrdd ar gyfer gweithwyr syn ddarpar ofalwyr
maeth ac yn mynd drwyr broses o wneud cais i fod yn ofalwyr maeth. Mae鈥檙
polisi hefyd yn cefnogi gofalwyr maeth sydd eisoes yn darparu gofal i blant
syn derbyn gofal, i dalu am unrhyw hyfforddiant, mynychu paneli a
gwrandawiadau ac i ymateb i unrhyw argyfwng.