天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyflwyno terfynau cyflymder 20mya newydd

Published: 25/02/2022

20mph.jpg

Bydd terfyn cyflymder 20mya newydd yn cael ei gyflwyno dydd Llun, 28 Chwefror mewn rhai ardaloedd preswyl yn Sir y Fflint fel rhan o gynllun Llywodraeth Cymru i ostwng y terfyn cyflymder mewn ardaloedd preswyl o 30mya i 20mya.听

Mae hyn yn cynnwys Bwcle, Drury, Burntwood, Alltami, New Brighton, Mynydd Isa a Bryn Baal yn dilyn cyfnod helaeth o ymgysylltu 芒 chymunedau lleol ac ymgymryd 芒鈥檙 ymgynghoriad statudol.听

Bydd cyflwyno terfynau cyflymder 20mya yn gwella diogelwch ar y ffyrdd i raddau helaeth mewn ardaloedd preswyl, yn ogystal ag annog dulliau teithio llesol a fydd yn ategu at ddymuniad y Cyngor i gael rhwydwaith cludiant cynaliadwy integredig carbon isel drwy鈥檙 Sir.

Dywedodd Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd Sir y Fflint, y Cynghorydd Glyn Banks, bod terfynau cyflymder is hefyd yn allweddol i strydoedd iachach.听听

鈥淢ae tystiolaeth yn dangos cysylltiad amlwg rhwng cyflymder cerbydau a鈥檙 risg o anaf difrodol neu farwolaeth, yn arbennig pan fo plant neu ddefnyddwyr ffordd diamddiffyn yn y cwestiwn, felly mae gostwng y terfynau cyflymder yn allweddol i ffyrdd mwy diogel ac iach.听

鈥淢ae鈥檙 fenter ddiweddaraf hon yn allweddol i ddatblygiad rhwydwaith Teithio Llesol Sir y Fflint, sy鈥檔 anelu at wella seilwaith cerdded a seiclo ar draws y Sir dros y 15 mlynedd nesaf.鈥�

Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros y Newid yn yr Hinsawdd:听

"Bydd gwneud 20mya y terfyn cyflymder diofyn ar strydoedd prysur i gerddwyr ac mewn ardaloedd preswyl ledled Cymru yn helpu i leihau damweiniau, ac yn achub bywydau.听听

"Bwcle yw'r diweddaraf mewn nifer o gynlluniau rydym yn eu cyflwyno ledled Cymru i wneud ein strydoedd a'n cymunedau yn fwy diogel a chroesawgar i feicwyr a cherddwyr ac ar yr un pryd yn lleihau ein heffaith amgylcheddol."

Y setliadau eraill yng Nghymru yw鈥檙 Fenni, Canol Gogledd Caerdydd, Glan Hafren (Sir Fynwy), Llandudoch yn Sir Benfro, Cilfriw yng Nghastell-nedd Port Talbot, Saint-y-brid ym Mro Morgannwg a Gogledd Llanelli.听听

听