天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Datganiad y Cyngor ar y Gyllideb 

Published: 10/02/2022

Bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn cwrdd yr wythnos nesaf i wneud argymhellion terfynol ar gyfer gosod cyllideb gytbwys ar gyfer blwyddyn ariannol 2022/23.

Fe dderbyniodd y Cyngor gynnydd blynyddol o 9.2% yn ei grant gan Lywodraeth Cymru o鈥檌 gymharu 芒鈥檙 Cyfartaledd Cymreig o 9.4%.

Fodd bynnag mae angen i鈥檙 cynnydd hwn gynnwys nifer o gyfrifoldebau penodol fel effaith lawn y dyfarniadau cyflog ar gyfer y gweithlu sy鈥檔 Dysgu a鈥檙 rhai Nad Ydynt yn Dysgu a gweithredu鈥檙 Cyflog Byw Gwirioneddol.听 Yn ychwanegol fe fydd Cronfa Galedi Llywodraeth Cymru, sydd wedi ei defnyddio i fynd i鈥檙 afael 芒鈥檙 costau ychwanegol a鈥檙 incwm a gollwyd o ganlyniad i鈥檙 pandemig, yn dod i ben ddiwedd Mawrth sy鈥檔 golygu y bydd rhaid i鈥檙 Cyngor ysgwyddo鈥檙 costau hyn.听

Yn ystod y blynyddoedd blaenorol mae鈥檙 Cyngor wedi gosod cyfarwyddyd clir y dylai unrhyw gynnydd blynyddol fod yn 5% neu lai.听听

Mae cymryd hyn i gyd i ystyriaeth yn darparu gofyniad cyllidebol ychwanegol o 拢30.562m.听 Yn ogystal 芒鈥檙 cynnydd gan Lywodraeth Cymru - mae angen cynnydd blynyddol cyffredinol o 3.3% yn Nhreth y Cyngor ar gyfer holl Wasanaethau鈥檙 Cyngor a 0.65% i fodloni cost cyfraniadau ychwanegol i Wasanaeth T芒n ac Achub Gogledd Cymru, Gwasanaeth Rhanbarthol y Crwneriaid a Chonsortiwm Addysg Ranbarthol GwE. Mae hyn yn gyfystyr 芒 chynnydd cyffredinol o 3.95% ac mae鈥檔 darparu arenillion ychwanegol cyffredinol o 拢3.825m yn 2022/23.

Mae hyn yn golygu cynnydd blynyddol o 拢55.08 y flwyddyn ac mae鈥檔 dod 芒鈥檙 cyfanswm i 拢1,449.58 ar gyfer yr hyn sy鈥檔 gyfystyr 芒 Band D (sy鈥檔 gyfystyr 芒 拢1.06 yr wythnos).

Mae Sir y Fflint, fel yr holl gynghorau yn ddibynnol iawn ar Lywodraethau i ariannu鈥檙 gwasanaethau cyhoeddus yn iawn ar 么l blynyddoedd o gyni a thoriadau yn y sector cyhoeddus ar lefel genedlaethol. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu dyraniadau mynegol llawer is ar gyfer 2023/24 a 2024/25 o 3.5% a 2.4% a fydd yn cyflwyno heriau gwirioneddol i fodloni鈥檙 cynnydd parhaus mewn gofynion gwasanaeth a chwyddiant, yn arbennig mewn gofal cymdeithasol.听听

Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Ian Roberts:

鈥淩ydym wedi gweithio鈥檔 galed i sicrhau ein bod yn cyflwyno cyllideb gytbwys ac yn cynnal gwasanaethau鈥檙 Cyngor.听 Rydym yn ymwybodol iawn o鈥檙 pwysau ariannol y mae pob aelwyd yn ei wynebu ac felly rydym wedi cadw ein cynnydd o ran Treth y Cyngor o dan 4%.鈥澨

Dywedodd Aelod Cabinet Cyllid y Cyngor, y Cynghorydd Paul Johnson:

鈥淭ra bod y cynnydd yn y dyraniad gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2022/23 wedi ei groesawu mae鈥檔 parhau i gyflwyno heriau sylweddol o ran bodloni鈥檙 cyfrifoldebau ychwanegol ar gyfer costau鈥檙 gweithlu a diwedd y Gronfa Galedi, cronfa yr ydym wedi bod yn ddibynnol iawn arni. Er gwaetha鈥檙 heriau hyn, rydym yn parhau i fod wedi gallu argymell sefyllfa o gyllideb gytbwys i鈥檙 Cyngor tra鈥檔 cadw鈥檙 cynnydd blynyddol yn nhreth y cyngor yn is na chwyddiant.听 听Rydym yn gyngor cyllid isel sy鈥檔 gwneud defnydd effeithlon o鈥檔 hadnoddau fel gaiff ei gadarnhau yn rheolaidd gan ein rheoleiddiwr ariannol Archwilio Cymru.鈥