Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cartref gofal newydd ar gyfer y Fflint yn symud gam yn nes
Published: 10/02/2022
Fe symudodd cynlluniau Cyngor Sir y Fflint ar gyfer adeilad modern wedi ei adleoli gam ymlaen yn ddiweddar gyda chwblhau trosglwyddo tir o鈥檙 Bwrdd Iechyd i Gyngor Sir y Fflint.听听
Fe fydd y prosiect ailddatblygu sydd werth 拢15 miliwn bron yn dyblu nifer y lleoedd sydd ar gael, gyda 25 o leoedd newydd ychwanegol.听 Mae鈥檙 Cyngor wedi bod yn gweithio鈥檔 agos gyda鈥檙 Bwrdd Iechyd ar gynigion a bydd y trosglwyddiad hwn nawr yn galluogi i gynlluniau safle a chynigion datblygu gael eu llunio.
Fe fydd y cartref newydd yn hwyluso darpariaeth Rhyddhau i Wella ac Asesu yn y sir. Mae hyn yn adeiladu ar agor 32 o leoedd ychwanegol yn llwyddiannus yn Marleyfield House ym Mwcle, lle鈥檙 ydym ni鈥檔 cefnogi unigolion i gael eu rhyddhau鈥檔 gyflym ac yn ddiogel o鈥檙 ysbyty ac ymlaen i鈥檞 cartref.
Bydd cartref gofal newydd Croes Atti yn llety o'r radd flaenaf wedi ei adeiladu鈥檔 bwrpasol, ac nid yn unig y bydd yma leoliadau hirdymor a thymor byr ond bydd hefyd yn helpu i adsefydlu pobl ar 么l iddynt dreulio cyfnod yn yr ysbyty er mwyn iddynt adennill eu hyder a鈥檜 hannibyniaeth yn eu cartrefi eu hunain.
Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae Cyngor Sir y Fflint yn arwain y ffordd o ran gwerthfawrogi pobl hyn.听 Gan adeiladu ar lwyddiant Marleyfield, bydd y datblygiad newydd gwych hwn yn dod yn lle cartref gofal hoff Croes Atti yn y Fflint.听听
鈥淢ae hyn yn ailddatgan ymrwymiad y Cyngor i wasanaethau o safon, gan fuddsoddi arian mewn gwasanaethau allweddol.听 Rwy鈥檔 falch fod Cyngor Sir y Fflint yn parhau i gefnogi ein preswylwyr mwyaf bregus.鈥
Dywedodd Arweinydd Sir y Fflint, y Cynghorydd Ian Roberts:
鈥淔el rhan o Gynllun y Cyngor i gael cydbwysedd yn ei ddarpariaeth gofal, rwy鈥檔 falch iawn o gyhoeddi鈥檙 cynllun pwysig hwn sydd werth 拢15m ac wedi ei ariannu ar y cyd ar gyfer y Fflint, wedi鈥檌 adeiladu ar safle鈥檙 hen ysbyty bach.听 Rwy鈥檔 hyderus y byddwn yn gweld cartref gofal newydd gwych yn y Fflint yn y 2-3 blynedd nesaf.鈥
Mae鈥檙 Cyngor yn ymwybodol iawn o鈥檙 sensitifrwydd yn ymwneud a鈥檙 safle hwn ac mae鈥檔 ymdrechu i ddarparu gofal i bobl leol ac adeilad y gall y gymuned fod yn falch ohono.
Delwedd o sut ALLAI'r cyfleuster newydd edrych:

听
听
听
听
听
听
听