天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Crynodeb Archwilio Blynyddol Sir y Fflint 2020/21

Published: 11/02/2022

Bydd aelodau Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn cael eu sicrhau gan Grynodeb Archwilio Blynyddol Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2020/21 pan fyddant yn cyfarfod ddydd Mawrth 15 Chwefror.听

Ar y cyfan, daeth Archwilydd Cyffredinol Cymru i gasgliad cadarnhaol. 鈥淏u i'r Archwilydd Cyffredinol gadarnhau fod y Cyngor wedi cyflawni gweddill ei ddyletswyddau Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009 ar gyfer blwyddyn ariannol 2020-21, a nodwyd gan orchymyn a wnaed o dan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.鈥�

Ni wnaed unrhyw argymhellion ffurfiol yn ystod y flwyddyn. Mae nifer o gynigion newydd ar gyfer gwelliant (dau ohonynt eisoes wedi eu gweithredu) a chynigion datblygu'n codi o'r adolygiadau a gynhaliwyd gan Archwilio Cymru.

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, y Dirprwy Arweinydd y Cyngor a鈥檙 Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau:

"Rwy'n croesawu'r adroddiad cadarnhaol hwn gan yr Archwilydd Cyffredinol sy'n dangos yn glir bod y Cyngor yn gweithredu'n effeithiol, mewn blwyddyn heriol arall ar gyfer llywodraeth leol.听

鈥淩wyf hefyd yn falch fod yr Archwilydd Cyffredinol wedi rhoi barn ddiamod, gwir a theg ar ddatganiadau ariannol y Cyngor ar 29 Medi 2021, deufis cyn y terfyn amser statudol.听 Dengys hyn ein llwyddiant blaenorol o reoli cyllidebau鈥檔 effeithiol, a hefyd ein hymdrechion unol a pharhaus a鈥檔 hymrwymiad i ddefnyddio ein hadnoddau mor effeithlon 芒 phosibl.鈥澨�

Bydd ymateb y Cyngor i'r cynigion ar gyfer gwelliant yn cael ei rannu yng nghyfarfod mis Mawrth gan nodi鈥檙 adroddiadau a'r ymatebion.

听