天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 Sir Y Fflint yn lansio Canolbwynt newydd ar gyfer prentisiaid

Published: 07/02/2022

Trainee hub cy.pngMae Cyngor Sir Y Fflint yn nodi Wythnos Prentisiaethau Cymru gyda lansiad Canolbwynt Prentisiaethau ar-lein newydd.听

Cynhelir rhwng 7 a 13 Chwefror, mae Wythnos Prentisiaethau Cymru yn anelu i godi ymwybyddiaeth am yr ystod o gyfleoedd ar gael a manteision bod yn brentis.听

Mae Canolbwynt Prentisiaethau newydd Sir y Fflint yn cynnig ffynhonnell ganolog o wybodaeth i bobl sydd eisiau dysgu yn y gwaith, datblygu eu gwybodaeth a鈥檜 sgiliau, cyflawni cymwysterau ac ennill arian, y cyfan ar yr un pryd.听听

Mae gan Sir Y Fflint Raglen Brentisiaeth arobryn hir sefydledig a bob blwyddyn mae鈥檔 croesawu nifer o Hyfforddai newydd Sir y Fflint ar draws ystod o ddisgyblaethau, fel busnes a gweinyddu, TG, diwydiannau adeiladu, cynnal a chadw cerbydau a mecaneg.听听

Dywedodd y Cynghorydd Ian Roberts, Arweinydd y Cyngor a鈥檙 Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid:听

鈥淢ae ein cynllun prentisiaeth yn cael ei ystyried yn arfer gorau gyda dull sy鈥檔 arwain y sector.听 Gellir gweld hyn yn ein canlyniadau.听 Mae 95% o鈥檙 sawl sy鈥檔 dechrau prentisiaeth gyda Sir y Fflint yn derbyn canlyniad cadarnhaol.听 Mae 75% yn derbyn swyddi gyda鈥檙 Cyngor, 15% yn mynd ymlaen i gael gwaith y tu allan i鈥檙 Cyngor a 5% yn defnyddio cymwysterau a enillwyd i fynd i鈥檙 brifysgol.听听

鈥淢ae鈥檔 sefyllfa ble mae yna fanteision i bawb.听 Mae鈥檙 Cyngor yn elwa o gyfoeth o syniadau ac egni newydd ac mae prentisiaid yn cael datblygiad gwych a dechrau cadarn i鈥檞 gyrfa.听 听Mae rhai sydd wedi dechrau fel prentis bellach yn reolwyr gwasanaeth.鈥

Bydd y Cyngor yn recriwtio ar gyfer derbyn prentisiaid 2022 yn ystod y gwanwyn.听 Bydd yr hysbyseb allan ganol Mawrth ond mae pobl yn gallu cofrestru eu diddordeb nawr ar Ganolbwynt Prentisiaethau newydd y Cyngor ar-lein.听