Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Setliad Dros Dro a Chyllideb Cronfar Cyngor 
  		Published: 14/11/2016
Ar 15 Tachwedd bydd Cabinet Cyngor Sir y Fflint yn ystyried adroddiad ar 
gyllideb cronfa鈥檙 Cyngor a鈥檙 setliad dros dro. 
Mae Sir y Fflint yn gyngor effeithlon ac arloesol, ond mae hefyd yn gyngor a 
ariennir yn isel ac felly dim ond ychydig o gyfleoedd a geir i bontior bwlch 
cyllido drwy arloesi lleol.
Er gwaethaf hyn, mae Sir y Fflint yn perfformio鈥檔 gadarn o ran safon y 
gwasanaethau lleol y maen darparu, gan ddangos rhagoriaeth mewn gwasanaethau 
allweddol megis addysg a gofal cymdeithasol. 
Cydnabyddir Sir y Fflint yn genedlaethol fel cyngor arloesol o ran canfod 
atebion newydd sy鈥檔 gost effeithlon, yn gadarn ac yn gynaliadwy ar gyfer y 
dyfodol. 
Maer atebion hyn yn cynnwys sefydlu NEW Homes鈥, cwmni syn darparu cartrefi i 
bobl leol, a SHARP (Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol), a arweiniodd at godi tai 
cyngor newydd sbon yn y sir 鈥 sef y rhai cyntaf yng Nghymru ers cenhedlaeth. 
Mae鈥檙 Cyngor hefyd wedi sicrhau dyfodol cyfleusterau hamdden megis pwll nofio 
Cei Connah trwy sefydlu ateb rheoli yn y gymuned. Fodd bynnag, wrth i鈥檙 
cyfleoedd i arloesi leihau, felly hefyd yr arian sydd ar gael. 
Mae tair rhan i鈥檔 strategaeth ariannu:
1. Y Cyngor yn cymryd cyfrifoldeb dros barhau i ddiwygio a moderneiddio 
gwasanaethau lleol - mae gofyn i bob gwasanaeth, ac eithrio addysg a gofal 
cymdeithasol, leihau eu cyllidebau 30% dros y tair blynedd nesaf. 
2. Y Cyngor yn cymryd cyfrifoldeb dros ddefnyddio鈥檙 cyllid corfforaethol yn 
ddarbodus.
3. Y Cyngor yn pennu disgwyliadau realistig o ran yr hyn y gellir ei ddisgwyl 
gan Lywodraeth Cymru, ein prif ffynhonnell ariannu.
Mae cynghorau yng Nghymru yn ddibynnol iawn ar grant gan y llywodraeth i 
ariannu鈥檙 hyn a wn芒nt. Yn fwy felly yng Nghymru nag yn Lloegr. Dyma pam, o fewn 
ein strategaeth dair rhan, yr ydym ni鈥檔 galw am fwy o ryddid gan Lywodraeth 
Cymru ir Cyngor fod yn entrepreneuraidd. 
Maer Cyngor wedi cynghori鈥檔 flaenorol am fwlch amcangyfrifedig o 拢14.4 
miliwn yn y gyllideb ar gyfer blwyddyn ariannol 2017/18
Trwy gyfuniad o gynigion pellach i ddiwygio gwasanaethau, parhau 芒 stiwardiaeth 
ariannol effeithiol a gwell setliad grant dros dro mae鈥檙 bwlch hwn bellach wedi 
gostwng i oddeutu 拢2 filiwn.
Meddai Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Aaron Shotton:
鈥淢ae hwn yn gyfnod heriol i gynghorau lleol a Llywodraeth Cymru. Os ydym nin 
mynd i lwyddo i ganfod ein ffordd drwy hyn efo鈥檔 gwasanaethau lleol hanfodol yn 
dal yn un darn, yna mae ar gynghorau angen gweithion agos gydar llywodraeth - 
a dyna鈥檔 union yr ydym nin mynd i wneud er mwyn dod o hyd i atebion ar y cyd.鈥
Ar hyn o bryd maer Cyngor yn cynnal cyfres o gyfarfodydd ymgysylltu 芒r 
cyhoedd. Mae pedwar digwyddiad llwyddiannus eisoes wedi eu cynnal, ond mae yna 
tri digwyddiad arall ar 么l ac rydym yn eich annog chi i鈥檞 mynychu. Y manylion 
yw:
14 Tachwedd: Ysgol Gynradd Sirol Sandycroft
15 Tachwedd: Ysgol Gynradd Sirol Brychdyn
21 Tachwedd: Ysgol Caer Nant, Cei Connah 
Bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal o 6.30pm tan 8.30pm. Gallwch gofrestru 
ar-lein ar neu drwy ffonio ein llinell gofrestru ar 01352 701701 rhwng 9am a 
5pm, ddydd Llun i ddydd Gwener.
Ceir crynodeb on Strategaeth Ariannol Tymor Canolig ar ein gwefan ar dudalen 
Ein Sir y Fflint, Ein Dyfodol.
Maer strategaeth hon yn canolbwyntio ar 2017/2018 sef y flwyddyn ariannol 
nesaf y mae arnom angen cynllunio ar ei chyfer. Yn yr un modd, rydym yn cadw 
llygad ar 2018/2019 a thu hwnt ac yn cynllunio ymlaen llaw mewn ffordd gyfrifol 
a chynaliadwy. Bydd y Cyngor yn cyhoeddi datganiadau pellach wrth i鈥檙 gyllideb 
gael ei chwblhau - gan gynnwys yr angen am fwy o gyllid ar gyfer Sir y Fflint 
fel rhan o ddiwygiad sector cyhoeddus a chyllid llywodraeth leol.