Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cronfa Budd Gymunedol Parc Adfer
Published: 13/01/2022
Ddydd Mawrth 18 Ionawr bydd gofyn i Aelodau Cabinet Sir y Fflint gymeradwyo prif gymhwystra a meini prawf Cronfa Budd Cymunedol Parc Adfer a chefnogi lansiad y gronfa yn 2022.
Fel rhan o waith caffael contract Parc Adfer a Phartneriaeth Trin Gwastraff Gweddilliol Gogledd Cymru cytunwyd i ariannu a rheoli Cronfa Budd Cymunedol a fyddai ar gael yn ystod cyfnod y contract.听听
Hyd yma mae鈥檙 gronfa wedi鈥檌 defnyddio i ariannu Cronfa Adfer Cymunedol Parc Adfer, sydd bellach ar gau ond sydd wedi dyfarnu gwerth 拢60,000 a mwy o grantiau i 10 o brosiectau yn 2021.听
Bydd panel a threfniadau llywodraethu presennol y Gronfa Adfer Cymunedol yn parhau yn eu lle ar gyfer y brif gronfa budd cymunedol, felly hefyd y meini prawf cymhwyso trosfwaol. Fodd bynnag, bydd mathau鈥檙 prosiectau i鈥檞 hariannu yn wahanol i adlewyrchu bwriad gwreiddiol y gronfa, sef ariannu prosiectau cymunedol sy鈥檔 darparu buddion amgylcheddol yn yr ardal.听听
Bydd Cronfa Budd Cymunedol Parc Adfer yn cefnogi prosiectau sy鈥檔 bodloni un o鈥檙 pum prif faen prawf isod:
1. Ynni adnewyddadwy
2. Lleihau carbon
3. Ailddefnyddio, ailgylchu a lleihau gwastraff听
4. Bioamrywiaeth a gwelliannau i ansawdd yr amgylchedd lleol
5. Datgarboneiddio cludiant听
Meddai Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd Sir y Fflint, y Cynghorydd Glyn Banks:
鈥淢ae Cronfa Budd Cymunedol Parc Adfer yn gronfa hirdymor er budd cymunedau yn ardal y bartneriaeth, yn enwedig y rheiny sydd agosaf at Barc Adfer, gan ganolbwyntio ar gyllido prosiectau sy鈥檔 helpu neu鈥檔 rhoi budd i鈥檙 amgylchedd. Mae hwn yn gynllun buddiol iawn ac anogaf bob sefydliad cymwys i ymgeisio. Bydd y cynllun hwn yn helpu i barhau 芒鈥檙 gwaith amgylcheddol gwerth chweil sydd eisoes yn cael ei wneud."听
Y bwriad yw lansio鈥檙 Gronfa Budd Cymunedol ddiwedd mis Chwefror neu ddechrau mis Mawrth 2022.听
听