天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor yn torri tir newydd

Published: 09/11/2016

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi bod yn llwyddiannus i gael ei ddewis fel un or chwe chyngor ar draws Cymru i gymryd rhan yng ngham gweithredu cynnar o gynnig gofal plant Llywodraeth Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ehangu ei gynnig i rieni plant 3 a 4 oed sy鈥檔 gweithio hyd at uchafswm o 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant am ddim am 48 wythnos y flwyddyn. Yn dilyn y cyhoeddiad heddiw, dywedodd Arweinydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Aaron Shotton: 鈥淩ydym bob amser yn ceisio sicrhau bod cefnogi teuluoedd wrth wraidd ein gwaith. Mae helpu rhieni sy鈥檔 gweithion galed i gydbwyso magu plant gydau bywydau gwaith angen i ofal plant fod yn fwy hyblyg yn ogystal 芒 mwy fforddiadwy. Mae ein partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru wrth gefnogi mwy o deuluoedd i gael mynediad at ofal plant nag erioed or blaen yn gam allweddol wrth gyflwyno鈥檙 ymrwymiad hwnnw. Mae hwn yn newyddion gwych ac mae鈥檔 arbennig o galonogol i glywed bod Sir y Fflint yn creu argraff ar Lywodraeth Cymru gyda鈥檌 ddull amlddisgyblaethol, sy鈥檔 dangos bod pobl o ystod o ddisgyblaethau a chefndiroedd yn ymroddedig i wneud gwahaniaeth i deuluoedd. Roedd y ffaith bod arweinyddiaeth Sir y Fflint yn gefnogol o gyfnod cynnar iawn yn bwysig hefyd.鈥 Unwaith y bydd y cynnig wedi cael ei ddatblygu, bydd yn cael ei brofi yn y chwe ardal awdurdod lleol o hydref 2017 i wneud yn siwr ei fod yn gweithio i rieni a darparwyr gofal plant, yna bydd yn cael ei gyflwynon ehangach.