Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Diweddariad ar Economi Sir y Fflint
Published: 13/01/2022
Ddydd Mawrth 18 Ionawr bydd gofyn i Gabinet Sir y Fflint gefnogi canfyddiadau adroddiad ynglyn ag economi Sir y Fflint.听
Meddai鈥檙 Cyng. Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint:
鈥淢ae busnesau sawl sector yn yr economi wedi wynebu cyfnod heriol iawn yn sgil effeithiau Brexit a phandemig Covid-19. Mae amhariadau ar fasnachu oherwydd Covid, problemau gyda'r gadwyn gyflenwi ac anawsterau wrth recriwtio staff oll wedi rhoi cadernid busnesau ar brawf.听
鈥淓r gwaethaf yr heriau y mae llawer o fusnesau yn eu hwynebu, o gymharu 芒 rhannau eraill o Gymru mae economi Sir y Fflint wedi aros yn gadarn ar y cyfan ac wedi parhau i fod yn gystadleuol."听
Mae anawsterau busnesau wrth recriwtio yn dangos nad yw nifer o bobl ifanc yn yr ardal yn manteisio ar y gyrfaoedd ansawdd uchel sydd ar gael iddyn nhw鈥檔 lleol ac felly mae angen gwneud rhagor o waith i godi proffil y cyfleoedd gwych sydd ar gael yn lleol ac yng ngogledd Cymru.听听
Er bod gan ganol trefi Sir y Fflint lai o siopau gwag ar y cyfan, mae鈥檔 rhaid i鈥檙 Cyngor weithio鈥檔 agos gyda busnesau canol tref i ddeall yr amodau yn well ac i sicrhau bod cymorth yn cael ei ddarparu i ddiwallu eu hanghenion.听
Mae鈥檙 adroddiad hefyd yn amlygu鈥檙 angen i gynyddu argaeledd eiddo a safleoedd i helpu busnesau fuddsoddi yn y sir, gan fod llif cyson o ddiddordeb i fanteisio arno o hyd. Mae鈥檙 Cyngor yn bwriadu cyflwyno cynigion i Gronfa Codi鈥檙 Gwastad Llywodraeth y DU i foderneiddio unedau masnachol i ddenu rhagor o fuddsoddiadau mewn busnes.
Mae鈥檙 adroddiad yn crynhoi鈥檙 gwaith sy鈥檔 cael ei wneud ar draws y rhanbarth gan Fwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a Chynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy i sicrhau adnoddau ychwanegol i helpu鈥檙 economi adfer yn dilyn y pandemig ac i osod y sylfeini ar gyfer llwyddiant i鈥檙 dyfodol.听
听