天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diweddariad ysgolion 

Published: 10/01/2022

Mae Claire Homard, Prif Swyddog Addysg ac Ieuenctid Sir y Fflint wedi darparu鈥檙 diweddariad canlynol ar y sefyllfa yn ysgolion y Cyngor ar ddechrau Tymor y Gwanwyn.听

Mae staff ysgolion Sir y Fflint wedi dychwelyd i鈥檞 gwaith heddiw am y ddau ddiwrnod cynllunio a ganiatawyd gan Lywodraeth Cymru. Pwrpas y dyddiau cynllunio yw galluogi Penaethiaid i adolygu argaeledd eu gweithlu a phenderfynu a yw鈥檔 bosib iddynt ddarparu dysgu wyneb yn wyneb yn ddiogel ar gyfer yr holl ddisgyblion neu a fyddai absenoldebau staffio yn golygu bod rhaid i rai dysgwyr ddechrau鈥檙 tymor newydd trwy ddull dysgu cyfunol.听听

Mae鈥檙 dyddiau cynllunio hefyd yn rhoi鈥檙 cyfle i ysgolion ail edrych ar eu hasesiadau risg a gwneud unrhyw newidiadau i amgylchedd yr ysgol er mwyn sicrhau bod mesurau amddiffyn Covid-19 cadarn ar waith, yn seiliedig ar y cyngor gan Lywodraeth Cymru y dylent fod yn gweithredu ar y lefel uchaf ar y Fframwaith Rheoli Heintiau.听 Gall hyn gynnwys ad-drefnu dodrefn er mwyn sicrhau cadw pellter corfforol, ail gyflwyno systemau unffordd, llunio cynlluniau eistedd, cynllunio ar gyfer gwasgaru amseroedd cychwyn a gorffen a threfnu disgyblion mewn grwpiau cyswllt ar wah芒n.听 Bydd pob ysgol yn gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar eu hasesiad risg unigol ac yn hysbysu rhieni/gofalwyr a disgyblion yn uniongyrchol.听 Pwrpas arall i鈥檙 diwrnod cynllunio yw rhoi amser i athrawon baratoi cynlluniau gwersi petai penderfyniad yn cael ei wneud i atal dysgu wyneb yn wyneb a dychwelyd at ddull dysgu cyfunol.听

Mae holl Benaethiaid Sir y Fflint wedi hysbysu鈥檙 Cyngor o鈥檜 sefyllfa staffio gyfredol heddiw yn barod ar gyfer dychweliad disgyblion i鈥檙 ysgol ddydd Llun 10 Ionawr.听 听Er bod rhai ysgolion ag absenoldebau staff sylweddol o hyd, yn seiliedig ar yr adroddiad ar y sefyllfa heddiw, bydd holl ysgolion Sir y Fflint ar agor i bob disgybl ar gyfer dysgu wyneb yn wyneb ddydd Llun.听 Fodd bynnag, mae鈥檔 rhaid cydnabod y gall y sefyllfa hon newid yn gwbl fyr rybudd, o ystyried yr hinsawdd sydd ohoni gyda鈥檙 nifer uchel o achosion positif a鈥檌 bod yn bosib i ysgol fethu 芒 gweithredu鈥檔 ddiogel, gan arwain at orfod symud rhai disgyblion i ddysgu cyfunol.听 Cytunir ar hyn bob amser ag Adran Addysg y Cyngor a chaiff rhieni/gofalwyr eu cynghori cyn gynted 芒 phosib.听 Y nod yw sicrhau bod unrhyw newidiadau i鈥檙 dull dysgu cyfunol yn cael ei weithredu鈥檔 unig fel yr opsiwn olaf un ac am y cyfnod byrraf posib.听

Fe wnaeth Mrs Homard gyfarfod 芒鈥檙 holl Benaethiaid ddydd Iau 6 Ionawr ac estyn ei diolch personol a diolch y Cyngor, i bob arweinydd ysgol a鈥檜 staff am eu hymdrechion i ailagor ysgolion i ddisgyblion ddydd Llun, er gwaethaf heriau parhaus y pandemig, a dymuno鈥檔 dda iddynt a chymunedau eu hysgolion ar ddechrau Tymor newydd y Gwanwyn.听