天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Arhoswch yn ddiogel dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Published: 24/12/2021

Datganiad ar y cyd gan Wasanaethau Cyhoeddus Gogledd Cymru.

Anogir trigolion Gogledd Cymru i fod yn ofalus dros yr Wyl er mwyn cadw eu hunain a'u hanwyliaid yn ddiogel.

Gyda'r ansicrwydd yn parhau ynglyn ag effaith yr amrywiolyn Omicron, mae'r gwasanaethau cyhoeddus yn monitro'r sefyllfa yn agos.聽

Mae Grwp Cydlynu Strategol Gogledd Cymru (SCG) yn dod 芒'r gwasanaethau brys a鈥檙 gwasanaethau iechyd, awdurdodau lleol a gwasanaethau cyhoeddus eraill at ei gilydd.

Y Prif Gwnstabl Cynorthwyol Nigel Harrison sy'n cadeirio'r grwp, a dywedodd:聽 鈥淲rth i ni ddysgu mwy am yr amrywiolyn COVID newydd, rydym yn gofyn i bawb gymryd gofal ychwanegol. Rhaid i bawb ohonom chwarae ein rhan drwy gadw ein gilydd yn ddiogel."聽

鈥淩ydym yn annog pawb yng Ngogledd Cymru i ddilyn canllawiau diweddaraf Llywodraeth Cymru. Os weithiwn ni gyda鈥檔 gilydd gallwn atal y lledu a helpu diogelu gwasanaethau hanfodol.鈥�

Gwnewch y prawf llif unffordd cyn mynd allan - boed i barti Nadolig, i siopa, i weld ffrindiau neu deulu; neu wrth fynd i unrhyw le yn llawn pobl neu cyn teithio.

Os ydych yn profi'n bositif neu os oes gennych symptomau Covid-19 ni ddylech fynd allan a dylech drefnu gwneud prawf PCR a hunan-ynysu.

Mae'n hanfodol ein bod yn gwneud popeth i atal COVID rhag lledu, mae hyn yn golygu golchi dwylo, cadw pellter, gwisgo mwgwd, a chadw ffenestri ar agor os ydych yn cwrdd 芒 phobl y tu mewn.

Y ffordd orau o gadw'n ddiogel yn erbyn COVID-19 yw cael eich brechu. Rydym am i oedolion sy'n gymwys i archebu brechiad hybu cyn gynted 芒 phosib i ddiogelu pawb rhag i achosion Omicron ledu ar draws Gogledd Cymru yn yr wythnosau nesaf.

Gall pobl archebu ar-lein neu fynd i glinigau galw i mewn ac rydym yn annog pawb i wneud hyn cyn gynted ag y gallent a pheidio 芒 gadael pethau tan y Flwyddyn Newydd.聽 Os ydych eisoes wedi archebu apwyntiad ym mis Rhagfyr cadwch ato.

Gellir cael gafael ar y Gwasanaeth Archebu Lle ar:

multi agency covid19 social media graphic Cymraeg.jpg