Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Peidiwch â ffonio a gyrru
  		Published: 09/11/2016
Mae t卯m Diogelwch Ar Y Ffyrdd Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi ymgyrch llym ar 
fodurwyr syn defnyddio eu ffonau symudol wrth yrru.
Cynhelir yr ymgyrch gorfodaeth Cymru Gyfan o ddydd Llun, 7 Tachwedd tan ddydd 
Sul, 20 Tachwedd, ac mae鈥檔 annog holl ddefnyddwyr y ffordd i 鈥榞adw eu llygaid 
ar y ffordd鈥 a pheidio 芒 gadael i鈥檞 ffonau dynnu eu sylw. 
Yn ystod yr ymgyrch, bydd swyddogion yn siarad gyda gyrwyr ynghylch peryglon o 
ddefnyddio ffonau symudol wrth yrru, a hefyd y peryglon o gael eu sylw wedi ei 
dynnu pan maent tu 么l y llyw.  Bydd swyddogion yn stopio modurwyr sy鈥檔 cael eu 
dal yn defnyddio eu ffonau symudol wrth yrru a gall unrhyw droseddwyr ddisgwyl 
cael dirwy o 拢100 a thri phwynt ar eu trwydded. 
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir Y Fflint 
鈥淩ydym yn cydnabod bod mwyafrif uchel o鈥檙 cyhoedd eisiau defnyddior rhwydwaith 
ffordd i fynd o A i B yn ddiogel, a nid ydynt eisiau bod yn agored i berygl 
diangen oherwydd gweithredoedd eraill.  Wrth yrru cerbyd mae angen gallu gwneud 
llawer o dasgau, felly mae unrhyw beth arall angen aros nes yr ydym wedi 
parcion ddiogel neu nes bydd eich taith wedi dod i ben.
Dywedodd y Prif Arolygydd Darren Wareing o Uned Plismona Ffyrdd Heddlu Gogledd 
Cymru: 鈥淕all hyd yn oed gyrwyr profiadol a chymwys cael eu sylw wedi鈥檌 dynnu yn 
hawdd a gall diffyg canolbwyntio arwain at ganlyniadau difrifol. Mae ffonau 
clyfar yn rhan allweddol o fywyd modern, hefyd rydym yn gweld gyrwyr yn cael eu 
sylw wedi鈥檜 tynnu pan maent yn edrych ar gyfryngau cymdeithasol, darllen e-byst 
neu鈥檔 mynd ar y rhyngrwyd. Mae angen i yrwyr fod yn ymwybodol bod gan y 
gweithredoedd hyn yr un perygl a鈥檙 un gosb.
鈥淢ae ein prif neges yn glir; cadwch eich llygaid ar y ffordd. Gall ddiffyg 
canolbwyntio wrth yrru fod yn ddinistriol, a dymar rheswm bod swyddogion o鈥檔 
pedwar heddlu yng Nghymru yn mynd ar batr么l rhagweithiol i dargedu modurwyr 
sydd yn rhoi defnyddwyr y ffordd mewn perygl yn y modd hwn.鈥
Mae Heddlu Gogledd Cymru wedi lansio ymgyrch #OOpSnap yn ddiweddar, menter sy鈥檔 
caniat谩u tystiolaeth fideo a ffotograffau gael eu hanfon atom gan bobl sydd 
wedi tystio unrhyw droseddau gyrru.