Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Prosiect Meicro-ofal Sir y Fflint
Published: 09/12/2021
Pan fyddant yn cyfarfod ddydd Mawrth 14 Rhagfyr, bydd gofyn i Aelodau Cabinet Sir y Fflint barhau i gefnogi鈥檙 cynnydd wrth gyflwyno cynllun peilot Meicro-ofal arloesol, a chyfraniad cadarnhaol y cynllun wrth ateb y galw am ofal yn Sir y Fflint.听
Mae鈥檙 rhaglen Meicro-ofal a sefydlwyd gan y Cyngor, mewn partneriaeth gyda Chadwyn Clwyd a Llywodraeth Cymru, yn cefnogi ac yn mentora unigolion i ddatblygu eu busnes neu syniad ac mae鈥檔 darparu gwybodaeth am hyfforddiant, cyllid ac adnoddau eraill sydd ar gael, yn ogystal 芒鈥檜 tywys nhw drwy ddeddfwriaeth a rheoliadau cyfredol.听 听Mae hefyd yn cefnogi unigolion i aros yn eu cartrefi eu hunain.听
Fel pob awdurdod lleol arall, mae Sir y Fflint yn wynebu pwysau am y galw cynyddol am ofal cymdeithasol, gyda phoblogaeth hyn sydd yn tyfu ac asiantaethau gofal yn cael anhawster recriwtio a chadw gweithwyr.听 Gall cyflwyno gofal mewn ardaloedd gwledig fod yn broblem, ond mae rhaglen Meicro-ofal yn llwyddiant mawr.听
Meicro-ofalwyr yw busnesau bach iawn sy鈥檔 amrywio o unig fasnachwyr i fusnesau sy鈥檔 cyflogi pump o bobl, sy鈥檔 cynnig gwasanaethau math gofal, cefnogaeth neu les hyblyg wedi鈥檜 personoli, i bobl ddiamddiffyn, wedi鈥檜 teilwra i anghenion yr unigolyn.听 Ym mis Medi 2021, roedd y busnesau yma鈥檔 darparu i 79 cleient ac yn darparu 497 awr ar gyfartaledd o ofal, cefnogaeth neu les (yn seiliedig ar ffigurau mis Medi). O鈥檙 497 awr, roedd 420 ar gyfer gofal personol ac roedd 77 awr ar gyfer gwasanaethau math lles, er enghraifft glanhau, siopa a chyfeillgarwch.
Meddai Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint (Partneriaethau) ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cyhoeddus Sir y Fflint, Cynghorydd Christine Jones:
鈥淢ae adborth gan gleientiaid, teuluoedd, swyddogion y cyngor a meicro-ofalwyr eu hunain wedi bod yn gadarnhaol iawn hyd yn hyn. Mae 10 meicro-ofalwr arall wrthi鈥檔 sefydlu eu busnes ar hyn o bryd ac yn mynd drwy ein proses ansawdd.听 Yn ogystal 芒 hyn, mae sawl meicro-fusnes presennol yn recriwtio staff i ehangu鈥檙 cyflenwad o ofal y gallant ei gynnig.听
鈥淐awsom ddiddordeb gan ITV Cymru yn ddiweddar a ddarlledodd ddarn hyfryd am feicro-ofalwr, ei chleient a鈥檌 theulu a ddangosodd waith gwych sy鈥檔 cael ei wneud yn Sir y Fflint."听
Mae busnesau meicro-ofal yn gweithredu ym mhob ardal o Sir y Fflint ac mae鈥檙 model yn gost effeithiol.听
Yr argymhellion sydd wedi鈥檜 cynnwys yn yr adroddiad yw:听
鈥� Bod cefnogaeth gan Swyddog Datblygu Meicro-ofal yn cael ei werthfawrogi ac mae angen ei gynnal.
鈥� Bod ymrwymiad buddsoddiad ariannol i gynnal, amddiffyn a datblygiad pellach y prosiect yn hanfodol.
鈥� Y dylid cydnabod y Fframwaith Ansawdd fel adnodd gwerthfawr y gellir ei ddefnyddio听 mewn ardaloedd eraill ar draws Cymru.听听
鈥� Adeiladu ar y gefnogaeth sydd ar gael i feicro-ofalwyr gydag anghenion hyfforddiant priodol.听听
鈥� Ail-werthuso鈥檙 prosiect ym mis Mawrth 2022.
听