天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwaith gwelliannau amgylcheddol ar eglwys yn Y Fflint

Published: 08/11/2016

Cafodd y gwaith ar Gam 2 o waith gwelliannau amgylcheddol ir ardal o amgylch Eglwys Plwyf y Santes Fair a Sant Dewi ar Stryd yr Eglwys Y Fflint, ei atal dros dro yn ddiweddar tra bod archeolegwyr o Ymddiriedolaeth Archeolegol Clwyd Powys (CPAT) yn cael y cyfle i astudio nifer o ddarganfyddiadau a ddatgelwyd gan y gwaith. Maer safle yn dyddio or canol oesoedd yn fuan ar 么l i鈥檙 dref gael ei sefydlu gan Edward I yn y 1280au, ond cafodd yr eglwys ei hun ei hadeiladu yng nghanol yr 19 ganrif. Maer gwaith presennol yn cael ei gynnal ar dir a fu unwaith yn fynwent, ac mae tystiolaeth o sawl bedd wedi cael eu darganfod, gan gynnwys un oedd yn cynnwys rhan o ysgerbwd. Mae crochenwaith a ganfuwyd yn y bedd yn awgrymu y gallai fod yn dyddio or 18fed ganrif. Mae鈥檙 gweddillion a gafodd eu symud yn ofalus gan archeolegwyr bellach wedi cael eu hail gladdu. Dywedodd Derek Butler, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Ddatblygu Economaidd: 鈥淢aer prosiect i wella golwg yr ardal o amgylch yr Eglwys yn Y Fflint yn rhan o raglen adfywio ehangach y Cyngor ar gyfer y dref. Bydd ymddangosiad ffisegol y dref yn cael ei wellan aruthrol drwy fuddsoddi mewn tai a chyfleusterau cymunedol newydd, gwella blaenau siopau, a pharth cyhoeddus sy鈥檔 fwy deniadol. Mae hanes unigryw Y Fflint wedi bod yn ystyriaeth bwysig drwy gydol y broses, ac mae鈥檙 darganfyddiadau hyn yn ffurfio pennod gyffrous arall yn natblygiad y dref.鈥� Mae鈥檙 Eglwys yn ward y Cynghorydd Ian Roberts, a ddywedodd: 鈥淓r bod pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau bod y Contractwyr yn cwblhau Cam 2 o鈥檙 gwaith gwelliannau amgylcheddol ar amser, maen rhaid rhoi parch dyledus i鈥檙 olion archeolegol hynafol a ddarganfuwyd yn yr hen fynwent. 鈥淢ae gwaith yn parhau ar y waliau cynnal ar 么l newid bychan yn y dyluniad yn sgil darganfod yr olion archeolegol hyn, ac mae鈥檙 cynllun yn mynd rhagddo gyda diwydrwydd dyladwy yn y tir cysegredig sydd o amgylch yr eglwys.鈥�