天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Ffliw Adar

Published: 03/12/2021

Hoffai T卯m Iechyd Anifeiliaid Cyngor Sir y Fflint wneud cymunedau Sir y Fflint yn ymwybodol o鈥檙 risg cynyddol a gyflwynwyd gan Ffliw Adar.听

Gofynnir i bawb sy鈥檔 cadw adar a dofednod (boed yn ychydig ohonynt fel adar anwes neu鈥檔 filoedd o adar fel rhan o fusnes) i ddilyn y cyngor diweddaraf gan Lywodraeth Cymru a sicrhau eu bod yn cadw eu hieir dan do ac yn dilyn mesurau bioddiogelwch llym er mwyn amddiffyn eu hieir eu hunain a chyfyngu ar ledaeniad y clefyd.听

Mae鈥檙 clefyd yn cael ei gludo gan adar gwyllt sy鈥檔 mudo i鈥檙 Deyrnas Unedig o dir mawr Ewrop yn ystod y gaeaf a gall arwain at achosion mewn dofednod ac adar caeth eraill.听

Mae鈥檙 t卯m yn dweud o ddydd Llun 29 Tachwedd 2021, mae鈥檙 Prif Swyddogion Milfeddygol ar gyfer Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi cytuno i gyflwyno mesurau newydd i gadw adar o dan do i amddiffyn dofednod ac adar caeth rhag ffliw adar. Mae hyn yn dilyn nifer o achosion a gadarnhawyd ar draws Prydain Fawr yn cynnwys yn lleol yn Wrecsam ac ar Ynys M么n yn yr wythnosau diwethaf.听听

Mae鈥檙 mesurau newydd hyn i gadw adar o dan do yn golygu o ddydd Llun, 29 Tachwedd, mae鈥檔 ofyniad cyfreithiol i bawb sy鈥檔 cadw adar ar draws y Deyrnas Unedig i gadw鈥檙 holl ddofednod ac adar caeth o dan do ac mae鈥檔 rhaid i bob ceidwad barhau i gymryd rhagofalon ychwanegol i gadw eu hieir a dofednod yn ddiogel.听 Mae hyn yn cynnwys glanhau a diheintio offer, dillad a cherbydau yn rheolaidd pan fyddwch yn mynd i mewn neu鈥檔 gadael safleoedd a chyfyngu ar fynediad i weithwyr neu ymwelwyr nad ydynt yn hanfodol.

Mae鈥檙 t卯m yn cefnogi cyngor Llywodraeth Cymru bod angen i鈥檙 holl geidwaid gymryd camau i ddiogelu lles anifeiliaid, ymgynghori 芒鈥檜 milfeddyg am gyngor a gosod cytiau/siediau ychwanegol lle bo angen i amddiffyn eu hadar rhag y clefyd.听

Nid yw Ffliw Adar yn gysylltiedig 芒鈥檙 pandemig COVID-19 o gwbl, a achoswyd gan y firws SARS-CoV-2 ac nid yw鈥檔 cael ei gludo mewn dofednod neu adar caeth.听 听

Cyngor iechyd cyhoeddus yw bod y risg o鈥檙 firws ffliw adar i iechyd dynol yn isel iawn ac mae Asiantaeth Safonau Bwyd Cymru yn dweud bod ffliw adar yn peri risg diogelwch bwyd isel iawn i ddefnyddwyr y Deyrnas Unedig.听听

Os bydd aelod o鈥檙 cyhoedd yn canfod unrhyw elyrch, gwyddau neu hwyaid marw neu wael, neu adar gwyllt marw eraill, fel gwylanod neu adar ysglyfaethus, dylent roi gwybod amdanynt drwy ffonio llinell gymorth Defra ar 03459 33 55 77.

Dywedodd y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd Sir y Fflint:

鈥淧鈥檜n ai ydych yn cadw ychydig o adar neu filoedd ohonynt, gofynnwn i bawb sy鈥檔 cadw adar i gymryd y camau priodol i gadw eu hadar ar wah芒n i adar gwyllt er mwyn eu hamddiffyn rhag y clefyd hynod heintus hwn.听 Mae amddiffyn iechyd, diogelwch a lles yn flaenoriaeth i鈥檙 cyngor ac mae hyn yn cynnwys iechyd a lles anifeiliaid hefyd.听 听Mae ein swyddogion eisiau helpu鈥檙 rheiny sy鈥檔 cadw adar i amddiffyn eu hanifeiliaid. Os ydych yn adnabod rhywun sy鈥檔 cadw adar, nad ydynt efallai yn ymwybodol o risg cynyddol Ffliw Adar, gofynnwn i chi ledaenu鈥檙 gair fel y gallwn gadw Sir y Fflint yn rhydd rhag y firws.鈥澨

Cynghorir y rheiny sy鈥檔 cadw dofednod ac adar caeth i fod yn wyliadwrus o unrhyw arwyddion o鈥檙 clefyd yn eu hadar ac unrhyw adar gwyllt a gofyn am gyngor gan eu milfeddyg ar unwaith os oes ganddynt unrhyw bryderon.听

Gofynnir i鈥檙 rheiny sy鈥檔 cadw adar yng Nghymru sy鈥檔 amau bod gan aderyn y clefyd ffonio 0300 303 8268, ac yn Lloegr ffonio Llinell Gymorth Gwasanaethau Gwledig Defra ar 03000 200 301. Dylai ceidwaid ymgyfarwyddo gyda鈥檙 cyngor diweddaraf ar ffliw adar sydd ar gael ar wefan Llyw.cymru.听

Mae Cyngor presennol Llywodraeth Cymru i鈥檙 Rheiny sy鈥檔 Cadw Adar fel a ganlyn:

Mae鈥檔 rhaid i鈥檙 rheiny sy鈥檔 cadw dofednod bellach wneud y canlynol:听

  • Gwnewch yn siwr bod yr holl ddofednod ac adar caeth yn cael eu cadw ar wah芒n i adar gwyllt
  • Golchwch a diheintiwch eich dillad, esgidiau, offer a cherbydau cyn ac ar 么l dod i gysylltiad 芒 dofednod ac adar caeth - os yw鈥檔 ymarferol, defnyddiwch ddillad amddiffynnol untro
  • Cyfyngwch ar symudiad pobl, cerbydau neu offer i鈥檙 ardaloedd lle cedwir dofednod ac adar caeth, i leihau halogiad gan dail, slyri a chynnyrch eraill, a defnyddiwch reolaeth fermin effeithiol.
  • Cadwch gytiau/siediau鈥檙 dofednod yn l芒n a鈥檜 diheintio鈥檔 barhaus
  • Cadwch gynnyrch diheintio ffres ar y crynodiad cywir ym mhob mynedfa ac allanfa cytiau/siediau鈥檙 dofednod a ffermydd听
  • Cyfyngwch ar gyswllt uniongyrchol ac anuniongyrchol rhwng dofednod ac adar caeth ac adar gwyllt, yn cynnwys gwneud yn siwr nad yw adar gwyllt yn gallu cael mynediad at fwyd a dwr
  • Bydd y mesurau newydd hyn ar gadw adar o dan do yn cael eu hadolygu鈥檔 gyson fel rhan o waith y llywodraeth i amddiffyn heidiau o adar.听 Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth ar wefan Llyw.cymru.听听