天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Enwogion ydw i - ewch â fi allan o'r ysgol goedwig!

Published: 24/11/2021

Mwynhaodd disgyblion y dosbarth derbyn yn Ysgol Gwynedd, y Fflint eu fersiwn eu hunain o 鈥淚鈥檓 a Celebrity鈥� yn ddiweddar yn eu hardal ysgol goedwig.

Mae'r ysgol goedwig wedi bod yn rhan reolaidd o ddysgu ers nifer o flynyddoedd ac wedi'i datblygu'n barhaus fel y gall disgyblion fwynhau treulio diwrnod cyfan yn yr awyr agored.听 Ffocws yr wythnosau nesaf yw heriau o fath 鈥淚鈥檓 a Celebrity鈥� gydag ychwanegiadau gan gynnwys creu toiled 鈥渄unny鈥� brys, canopi tywydd gwlyb, gorsaf siocled poeth, gorsaf golchi dwylo a th芒n ar gyfer diwrnodau oer.

Arweinir y gweithgareddau gan athro a chymhorthydd addysgu ysgol goedwig profiadol. Ariannwyd hyn yn rhannol gan grant maint dosbarth Llywodraeth Cymru ac mae鈥檔 ffordd greadigol o wneud maint grwpiau llai wrth ddatblygu sgiliau disgyblion yn yr awyr agored.

Meddai Arweinydd Cyngor Sir y Fflint ac Aelod Cabinet Addysg ac Ieuenctid, y Cynghorydd Ian Roberts:

鈥淩wy鈥檔 cefnogi鈥檙 cyfle dysgu awyr agored hwn yn llwyr sy鈥檔 cefnogi ein pobl ifanc i ddatblygu a chydgrynhoi sgiliau y byddant yn eu defnyddio yng nghwricwlwm newydd Cymru.听 Mae hefyd yn eu hail-ymgysylltu ar 么l i'r ysgol gau yn ystod Covid.

鈥淢ae'r ysgol hefyd yn manteisio ar yr hyfforddiant dysgu awyr agored a ddarperir gan Gyfoeth Naturiol Cymru yr hanner tymor hwn ac maent yn awyddus i barhau i ehangu eu profiadau dysgu yn yr awyr agored."听

Defnyddir yr ysgol goedwig ar y cyd gan Ysgol Gwynedd ac Ysgol Pen Coch ac mae'r disgyblion yn chwarae ac yn dysgu ochr yn ochr 芒'i gilydd. Yn ystod y dydd, mae grwpiau o ddisgyblion o'r grwpiau blwyddyn ysgol eraill yn dod i ddysgu yn yr ardal ac yn cydweithredu 芒 disgyblion y dosbarth derbyn, gan fodelu iaith, gwaith t卯m a sgiliau eraill yn naturiol.听

Meddai鈥檙 Pennaeth yn Ysgol Gwynedd, Dewi Wyn Hughes:

鈥淩ydyn ni'n cynnal heriau 芒 thema, fel yr un gyfredol, er bod disgyblion yn cael eu hannog i gynhyrchu eu syniadau eu hunain.听 Yn ddiweddar, treuliodd un grwp bythefnos yn ymchwilio i wyau deinosor a'r wythnos diwethaf, fe ddaethon nhw o hyd i ddraenog ac ysgogodd hynny fwy o gyfleoedd dysgu.

鈥淢ae rhieni鈥檔 gefnogol iawn ac mae disgyblion bellach yn hyderus ac wrth eu bodd yn dysgu a chwarae yn yr awyr agored. Rydym yn awyddus i rannu arfer da ac yn agored i wahodd athrawon o ysgolion eraill i weld y safle. Rydym hefyd yn gobeithio cynnal prosiect dysgu cymunedol i oedolion ar gyfer rhieni ar ddysgu awyr agored 'Wellies in the woods'.鈥�

听

Gwynedd School (8 of 8).jpg听 听听

听

Gwynedd School (1 of 8).jpg
Gwynedd School (2 of 8).jpg

Gwynedd School (3 of 8).jpg

听

Gwynedd School (5 of 8).jpg Gwynedd School (7 of 8).jpg