天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Diolch personol

Published: 07/11/2016

Yn ddiweddar ymwelodd y Gwir Anrh. Arglwydd Jones 芒 swyddfeydd cwmni ffilm lleol yn Bretton, Sir y Fflint. Roedd yr Arglwydd Jones yno i ddiolch i berchnogion 鈥楶icture House Films鈥� yn bersonol am y gwaith roeddynt wedi ei wneud wrth gynhyrchu ffilm ar gyfer y Wobr Etifeddiaeth a ddangoswyd yn ddiweddar yn 10fed Seremoni Gwobrau Busnes Sir y Fflint. Cafodd y Wobr Etifeddiaeth ei chyflwyno gan Ysgrifennydd yr Economi a Seilwaith Ken Skates ir Gwir Anrh. Arglwydd Barry Jones mewn cydnabyddiaeth o鈥檌 wasanaeth gydol oes arbennig i fusnes ar economi a dywedodd Mr Skates: 鈥淣i allaf feddwl am unrhyw un gwell, neu fwy haeddiannol, i dderbyn y wobr syn cydnabod gwaith diflino Arglwydd Barry Jones yn cefnogi twf economaidd ar draws y rhanbarth. Mae wedi bod yn eiriolwr gwirioneddol ar gyfer anghenion a chyfleoedd yn y rhan yma o Gymru, gan gefnogi buddsoddiad mewn busnes a thwf swyddi ar bob cyfle, ac mae鈥檔 achub ar bob cyfle i hyrwyddo Sir y Fflint a Gogledd Ddwyrain Cymru lle bynnag y maen mynd.鈥� Yn ystod yr ymweliad, dywedodd Yr Arglwydd Jones: 鈥淩wyf wrth fy modd wedi cael dod yma i 鈥楶icture House Films鈥� gan fy mod am ddiolch iddynt i gyd yn bersonol am y gwaith gwych y maent wedi ei wneud yn cynhyrchu ffilm mor gofiadwy a dwys. Mae鈥檔 bod 芒 chymaint o dalent yn ein hardal leol yn wirioneddol ysbrydoledig a hoffwn ddymuno pob llwyddiant pellach i鈥檙 cwmni ar gyfer y dyfodol.鈥� Mae鈥檙 cwmni hefyd wedi gweithio ar ffilmiau eraill ar gyfer Arddangosfa Fusnes Sir y Fflint a Chyngor Sir y Fflint. Dywedodd Kate Oldfield, sydd gydar Arglwydd Jones ac Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros Ddatblygu Economaidd, y Cynghorydd Derek Butler yn y llun: 鈥淩ydym yn falch iawn o groesawur Arglwydd Jones i鈥檔 swyddfeydd 鈥楶icture House. Rydym yn gweithio鈥檔 galed i sicrhau fod pob ffilm yn adrodd stori gymhellgar - a gyda phwnc fel yr Arglwydd Jones, doedd hyn ddim yn anodd. 鈥淓i deyrnged bersonol yw鈥檙 ganmoliaeth orau y gallem ei dymuno; mae鈥檔 ddyn ysbrydoledig ac rydym yn lwcus iawn o鈥檌 gael yma yn Sir y Fflint.鈥�