天涯社区

Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


CANCELED!! Cyfle i ymuno â鈥檙 fforwm landlordiaid lleol

Published: 04/11/2021

Housing consultation.jpg

Mae Cyngor Sir y Fflint mewn partneriaeth 芒 Chymdeithas Genedlaethol y Landlordiaid Preswyl (NRLA) yn cynnal fforwm landlordiaid ddydd Mercher 8 Rhagfyr trwy Zoom, 6pm - 7.15 pm.

Mae'r fforwm yn gyfle i landlordiaid glywed newyddion, gofyn cwestiynau, cwrdd 芒 landlordiaid eraill a darganfod am wasanaethau a allai fod o ddiddordeb iddynt.

Gall aelodau'r NRLA archebu'n uniongyrchol trwy eu cyfrif.

Gall y rhai nad ydyn nhw'n aelodau archebu trwy e-bostio

Landlord.Support@flintshire.gov.uk a byddwn yn anfon y ddolen atoch.

Siaradwyr a鈥檙 Agenda

  • Bydd Gill Owens o'r NRLA yn darparu diweddariad ar ddeddfwriaeth gan gynnwys Deddf Rhentu Cartrefi Cymru 2016 a newidiadau i'r broses feddiannu.
  • Bydd T卯m Tai Sir y Fflint yn darparu gwybodaeth am gefnogaeth sydd ar gael gan y Cyngor gan gynnwys y Grant Caledi Tenantiaeth ar gyfer tenantiaid sector rhentu preifat: coronafeirws.
  • Bydd Gavin Dick yn darparu crynodeb o鈥檙 newidiadau i Dystysgrifau Perfformiad Ynni (EPC鈥檚).
  • Bydd t卯m Iechyd yr Amgylchedd Sir y Fflint yn darparu trosolwg o safonau tai a sut y gallant gynorthwyo landlordiaid ac asiantau. Bydd hyn yn cynnwys manylion am y cymorth sydd ar gael i landlordiaid i'w helpu i gydymffurfio 芒 Chod Ymarfer Rhentu Cymru (RSW) a sut i wneud cais am unrhyw grantiau ynni sydd ar gael.

I gael mwy o wybodaeth am y fforwm landlordiaid neu i anfon cwestiynau ar unrhyw bwnc perthnasol, e-bostiwch Landlord.Support@flintshire.gov.uk.