天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


#GwarchodParchuMwynhau 鈥� Ymgyrch Bang 2021

Published: 28/10/2021

AdobeStock_298163135 fireworks.jpgGyda dathliadau Calan Gaeaf a Th芒n Gwyllt yma, mae Heddlu Gogledd Cymru unwaith eto鈥檔 ymuno 芒 phartneriaid gan gynnwys Gwasanaeth T芒n ac Achub Gogledd Cymru听a Chyngor Sir y Fflint er mwyn sicrhau fod pawb yn mwynhau ond mewn modd diogel.

Mae cerfio pwmpenni, gwisg ffansi a gwylio t芒n gwyllt yn aml yn uchafbwynt yng nghalendr y teulu. Fodd bynnag, nid ydy cyfnod Calan Gaeaf a Noson T芒n Gwyllt yn hwyl i bawb a gall llawer o bobl yn ein cymunedau deimlo鈥檔 ofidus, yn ofnus ac yn bryderus yn ystod y cyfnod hwn.

Gyda lleiafrif yn defnyddio Calan Gaeaf a Noson T芒n Gwyllt fel esgus i gyflawni ymddygiad gwrthgymdeithasol, mae Heddlu Gogledd Cymru yn erfyn ar rieni a gofalwyr i gymryd sylw o gynlluniau eu plant er mwyn sicrhau eu bod yn ymddwyn yn gyfrifol ac nid yn torri鈥檙 gyfraith. Gall ymddwyn yn wrthgymdeithasol a throseddol effeithio ar fywyd un ifanc, ynghyd 芒鈥檙 rhai sy鈥檔 cael eu heffeithio oherwydd eu hymddygiad.

Fel arfer, mae hwn yn gyfnod prysur iawn i'r gwasanaethau brys. Bydd ein swyddogion, swyddogion cefnogi cymuned a鈥檙 heddlu gwirfoddol yn parhau i fod yn weladwy yn ein cymunedau yn ystod y dathliadau a chyn hynny er mwyn cynorthwyo i atal a chanfod achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac anhrefn.听

听

Cyngor i bobl ifanc sy鈥檔 mynd i chwarae Cast neu Geiniog:

  • Fe ddylai plant ifanc fod gydag oedolyn pan fyddant yn mynd i chwarae cast neu geiniog
  • Cynlluniwch lle rydych yn mynd a dywedwch wrth bobl i ble 鈥榙a chi鈥檔 mynd
  • Peidiwch 芒 thorri trwy rywle i arbed amser
  • Gwnewch yn siwr eich bod yn aros mewn lle gyda goleuadau stryd ac ewch 芒 fflachlamp gyda chi
  • Peidiwch byth 芒 mynd i dy rhywun nad ydych yn eu nabod
  • Peidiwch 芒 chnocio drws ty os oes arwydd 鈥楧im cast neu geiniog鈥� i鈥檞 weld
  • Peidiwch 芒 siarad 芒 phobl ddieithr ar y stryd
  • Parchwch y rhai sydd ddim eisiau cymryd rhan
  • Byddwch yn ofalus nad ydych yn dychryn pobl fregus, yn enwedig yr henoed
  • Gwnewch yn siwr fod pobl yn gallu eich gweld bob amser; gallai fod yn syniad da gwisgo t芒p adlewyrchol ar eich gwisg ffansi.
  • Byddwch yn ofalus wrth groesi'r ffordd
  • Cofiwch yr ystyrir taflu wyau a blawd at eiddo fel difrod troseddol 鈥� a bydd yr heddlu yn ymdrin ag achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y modd priodol
  • Mae鈥檔 drosedd gwerthu neu roi t芒n gwyllt i unrhyw un o dan 18 oed. Gallwch gael dirwy neu gyfnod yn y carchar am brynu neu ddefnyddio t芒n gwyllt yn anghyfreithlon
  • Mae鈥檔 anghyfreithlon defnyddio t芒n gwyllt mewn man cyhoeddus

听