Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Dros ben llestri yn Llyfrgell Bwcle
Published: 07/11/2016
Cafwyd amser gwych yn Llyfrgell Bwcle yn ddiweddar pan ddarparodd staff y
llyfrgell ddiwrnod arbennig o ddigwyddiadau am ddim i deuluoedd.
Roedd 鈥楧ros ben llestri yn Llyfrgell Bwcle yn cynnwys sioe gan Mr Magico a
fun diddanu pawb drwy berfformio castiau hud a gwneud anifeiliaid o falwns
gyda chymorth rhai o鈥檙 gwirfoddolwyr brwdfrydig.
Roedd llawer o鈥檙 plant wedi gwisgo gwisg ffansi ac fe drefnwyd dwy orymdaith
gwisg ffansi o amgylch y ganolfan gan ddiddanu鈥檙 siopwyr lleol! Enillwyr
gwobraur gystadleuaeth Gwisg Ffansi oedd Rachel Heaton, sy鈥檔 y llun gyda鈥檌
brawd Alex, a Liam Morris a oedd wedi gwisgo fel y Blaidd Mawr Drwg!
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint ar gyfer
Gwarchod y Cyhoedd a Hamdden:
鈥淩oedd y teuluoedd wir yn gwerthfawrogi鈥檙 diwrnod llawn hwyl hwn - roedd plant
o bob oed a鈥檜 rhieni a theidiau a neiniau wedi mwynhaur adloniant oedd ar
gael. Roedd y syniad wedi ysbrydoli dychymyg pawb ac roedd staff y llyfrgell
yn llawn brwdfrydedd ar gyfer y digwyddiad arbennig hwn. Mae llyfrgelloedd yn
darparu pob math o weithgareddau ar gyfer plant a theuluoedd drwy gydol y
flwyddyn ac roedd y digwyddiad hwn yn gyfle i atgoffa pawb o鈥檙 gwasanaeth am
ddim hwn.
Roedd cyfle hefyd i gymryd rhan mewn sesiwn gymnasteg a symudiad JIMMY BEAR ar
gyfer plant oedran cyn-ysgol ynghyd 芒 chlywed straeon arswyd, canu caneuon,
cymryd rhan mewn helfa drysor a bod yn greadigol gyda gweithgareddau crefft.
I gael gwybod mwy am ddigwyddiadau yn y llyfrgelloedd yn y dyfodol, ewch i
dudalen Facebook Llyfrgelloedd Sir y Fflint.