Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Miliynau o gynnyrch tybaco anghyfreithlon yn cael eu hatafaelu fel rhan o'r gwaith i fynd i'r afael â masnachu tybaco anghyfreithlon
Published: 21/10/2021
Mae dros bum miliwn o sigar茅ts anghyfreithlon wedi'u hatafaelu o leoliadau manwerthu lleol yn y chwe mis cyntaf o鈥檙 flwyddyn fel rhan o Ymgyrch CeCe, ymgyrch ar y cyd rhwng Safonau Masnach Cenedlaethol a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) i fynd i'r afael 芒 gwerthu tybaco anghyfreithlon.听
Mae鈥檙 cynnyrch anghyfreithlon hefyd yn cynnwys dros 1,700kg o dybaco rowlio a 66kg o shisha. I gyd, mae dros 拢2.7miliwn o bunnoedd o gynnyrch tybaco anghyfreithlon wedi鈥檌 waredu o'r strydoedd ledled Cymru a Lloegr ers lansio'r ymgyrch ym mis Ionawr 2021.听
Mae Ymgyrch CeCe yn rhan o strategaeth ehangach y llywodraeth i atal pob agwedd o'r farchnad tybaco anghyfreithlon, o fan-werthwyr rheng flaen i Grwpiau Troseddol byd-eang sy'n cymell masnachu anghyfreithlon, gan smyglo tybaco鈥檔 rhyngwladol ar raddfa fawr. Mae鈥檙 strategaeth yn cynnwys mynd i'r afael 芒'r ffrydiau cyflenwi drwy gau ffatr茂oedd anghyfreithlon, atal cynnyrch ac arian parod sy'n cael ei smyglo ar y ffin ac atal yr unigolion sy'n gwerthu cynnyrch mewn siopau a marchnadoedd. Cyflawnir y cyfan drwy weithio鈥檔 agos gyda'r rhai sy鈥檔 gorfodi'r gyfraith a phartneriaid eraill.听
Ar lefel leol mae NTS yn gweithio鈥檔 agos gydag awdurdodau lleol i gynorthwyo i ganfod tybaco anghyfreithlon, safonau masnach yn atafaelu cynnyrch tybaco anghyfreithlon a phrofi gweithgarwch prynu i dargedu鈥檙 rhai sy鈥檔 cyflenwi'r cynnyrch.
Dywedodd Wendy Martin, Cyfarwyddwr, Safonau Masnach Cenedlaethol:
鈥淢ae Ymgyrch CeCe yn ceisio diogelu cymunedau lleol rhag niwed o ganlyniad i fasnachu tybaco anghyfreithlon. Y tu hwnt i effaith sylweddol tybaco ar iechyd pobl, mae masnachu tybaco anghyfreithlon yn aml yn rhan o weithgarwch troseddol gan gynnwys smyglo cyffuriau, masnachu mewn pobl a chynhyrchu alcohol a DVD anghyfreithlon. Mae pris gwerthu bwriedig sigar茅ts sy'n cael eu hatafaelu yn aml yn hanner cost y tybaco cyfreithlon. Mae hyn nid yn unig yn tanseilio'r gwaith i leihau nifer yr unigolion sy'n ysmygu ond mae hefyd yn effeithio ar fusnesau cyfreithlon.听
听鈥淢ae'r ymgyrch yn nodi'r cydweithrediad cyntaf rhwng Safonau Masnach Cenedlaethol a HMRC, ac rwy'n falch bod y chwe mis cyntaf wedi bod yn hynod lwyddiannus er mwyn gwaredu cyfran sylweddol o gynnyrch tybaco anghyfreithlon oddi ar ein strydoedd ac atal y rhai sy'n masnachu鈥檔 anghyfreithlon.鈥
Dywedodd Simon York, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Ymchwilio Twyll, HMRC:
鈥淢ae Ymgyrch CeCe yn dangos ein hymrwymiad i fynd i'r afael 芒 bygythiad tybaco anghyfreithlon. Mae鈥檔 fasnach sy'n costio oddeutu 拢2.3 biliwn y flwyddyn i drethdalwyr y DU, gan danseilio ein gwasanaethau cyhoeddus allweddol a thalu am nifer o droseddau eraill sy'n niweidio cymunedau, gan gynnwys gynnau, cyffuriau a masnachu mewn pobl.听
鈥淢ae鈥檙 rhai sy鈥檔 masnachu yn tanseilio busnesau cyfreithlon ac nid ydynt yn poeni pwy yw eu cwsmeriaid, gan gynnwys plant. Mae HMRC a Safonau Masnach yn benderfynol o atal masnachu tybaco anghyfreithlon, fel y dengys y canlyniadau hyn".
Mae HMRC yn annog unrhyw un sydd 芒 gwybodaeth am werthu tybaco'n anghyfreithlon i roi gwybod amdano neu drwy ffonio鈥檙 Llinell Dwyll ar 0800 788 887.听
听