天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Wythnos Ymgyrch Masnachwyr Twyllodrus

Published: 19/10/2021

Yn ystod Wythnos Ymgyrch Masnachwyr Twyllodrus, mae Gwasanaethau Safonau Masnach Gogledd Cymru yn uno i lansio prosiect i ymgysylltu 芒 busnesau argraffu ar draws y rhanbarth.听 Prif ffocws yr ymgyrch fydd cwmn茂au argraffu sy鈥檔 cynhyrchu taflenni a phamffledi a ddefnyddir yn aml gan fasnachwyr i hyrwyddo gwasanaethau yn uniongyrchol ar garreg y drws.

Yn aml mae tystiolaeth gan ddioddefwyr troseddau ar garreg y drws yn dangos bod y troseddwyr yn ymddangos yn gredadwy ac yn broffesiynol wrth eu gwaith. Yn aml maent yn targedu ardaloedd preswyl trwy ddosbarthu taflenni cyn galw yn ddi-wahoddiad gyda鈥檙 bwriad o dwyllo pobl. Er bod y dull hwn o hysbysebu yn gyfreithlon, gwelwyd eu bod yn hepgor gwybodaeth statudol am eu busnesau, yn camarwain defnyddwyr ac nad ydynt yn darparu unrhyw ddull o iawndal na gwybodaeth sy鈥檔 galluogi swyddogion safonau masnach i ganfod o le maent yn dod.听 Yn aml iawn mae鈥檙 taflenni hyn yn gardiau A5 sy鈥檔 hysbysebu gwasanaethau garddio neu drwsio toeau gyda chyfeiriadau amlwg at 鈥榙disgownt i bensiynwyr鈥�, 鈥榙im gwaith yn rhy fawr na rhy fach鈥� a 鈥榗hyfnodau callio鈥� (cooling off periods).听

Mae rhediadau cynhyrchu mwy yn cael eu darparu yn fasnachol gan fusnesau argraffu ar-lein neu leol. Bydd ein hymgysylltiad ag argraffwyr lleol ym mhob rhan o鈥檙 rhanbarth yn tynnu sylw at y perygl i ddefnyddwyr, yn cynghori busnesau a'u hannog i gydymffurfio ac mae'n gyfle i ostwng nifer y taflenni di-enw nad oes modd eu holrhain a ddosberthir mewn cymunedau lleol.听听

Dywedodd Richard Powell, Cadeirydd Safonau Masnach Gogledd Cymru:

鈥淢ae masnachwyr twyllodrus yn dal i achosi nifer o broblemau i ddefnyddwyr yng ngogledd Cymru ac mae nifer ohonynt yn ceisio cuddio tu 么l i'r dull anghyfreithlon hwn o hysbysebu.听 Mae鈥檙 prosiect hwn yn anelu at helpu busnesau argraffu i ddeall y deddfau y mae'n rhaid iddyn nhw gydymffurfio 芒 nhw a鈥檌 gwneud yn fwy anodd i fasnachwyr twyllodrus guddio y tu 么l i'r dull hwn o hysbysebu."

听