Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb 鈥� 09 i 16 Hydref, 2021
Published: 11/10/2021
Mae hi鈥檔 Wythnos Genedlaethol Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb yr wythnos hon, amser i dynnu sylw at drosedd casineb, annog dioddefwyr i adrodd a gweithredu i atal y troseddwyr.
Mae partneriaid ar draws Rhanbarth Gogledd Cymru gan gynnwys awdurdodau lleol, Heddlu Gogledd Cymru a Chymorth i Ddioddefwyr, yn gweithio gyda鈥檌 gilydd i dynnu sylw at faterion trosedd casineb a hyrwyddo pobl i adrodd i鈥檙 Heddlu a Chymorth i Ddioddefwyr.
Trosedd casineb yw unrhyw drosedd sydd wedi'i dargedu at unigolyn oherwydd gelyniaeth neu ragfarn tuag atynt.听 Gall anabledd, tras neu ethnigrwydd, crefydd neu gred, cyfeiriadedd rhywiol neu drawsrywedd unigolyn achosi'r rhain. Gall y drosedd fod mewn amryw o ffurfiau, megis ar lafar, ar ffurf graffiti tramgwyddus, bygythiadau, difrod i eiddo, ymosodiad, seibr-fwlio, negeseuon testun sarhaus, negeseuon e-bost neu alwadau ff么n.
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Rheolaeth Gorfforaethol ac Asedau:
听鈥楳ae trosedd casineb yn anghywir. Mae鈥檔 dinistrio bywydau ac yn ynysu unigolion a chymunedau diamddiffyn. Rydym yn gwybod ei fod yn digwydd ond mae鈥檔 parhau i gael ei dan-adrodd. Rydym eisiau i holl droseddau a digwyddiadau casineb gael eu hadrodd fel bod y troseddwyr yn cael eu cosbi. Rhaid i holl asiantaethau sicrhau bod dioddefwyr yn cael eu cefnogi a bod yr holl wybodaeth yn cael ei ddefnyddio i ganfod mannau problemus ac atal y problemau rhag gwaethygu. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru yn parhau i godi proffil y mater pwysig hwn ac rwy'n hyderus drwy weithio mewn partneriaeth y gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol.'
Os ydych chi neu rywun rydych yn ei adnabod yn ddioddefwr trosedd casineb, mae nifer o ffyrdd i adrodd amdano: -
路听听听听听听听听 Ffonio鈥檙 Heddlu yn uniongyrchol drwy ddeialu 999 os ydych mewn perygl brys, neu 101 ar gyfer digwyddiadau nad ydynt yn rhai brys, neu gwblhau ffurflen adrodd ar-lein Heddlu Gogledd Cymru y gellir ei weld yma
路听听听听听听听听 Rhif Ff么n:听 0300 30 31 982 [Yn rhad ac am ddim, 24/7] i gysylltu 芒 Chymorth i Ddioddefwyr yn uniongyrchol. Caiff galwadau eu trin yn gyfrinachol ac mae gennych chi鈥檙 opsiwn i barhau鈥檔 ddienw.
- Gallwch hefyd adrodd ar-lein
听
听