Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyngor yn estyn croeso i arwyr y byd athletau
Published: 15/11/2016
Mae Cyngor Sir y Fflint wedi cynnal digwyddiad dinesig arbennig er mwyn
cydnabod llwyddiannau arwyr Paralympaidd y sir.
Cafodd Sabrina Fortune, enillydd y fedal efydd yn y gystadleuaeth taflu maen
F20 a Beverley Jones a gymerodd ran yn y gystadleuaeth disgen F37 yn 2016 鈥� y
5ed Gemau Paralympaidd yn olynol iddi gystadlu ynddynt - eu croesawu mewn
derbyniad arbennig gan y Cadeirydd, y Cynghorydd Peter Curtis, yr Arweinydd, y
Cynghorydd Aaron Shotton a鈥檙 Prif Weithredwr, Colin Everett, ar y cyd 芒
chynghorwyr a swyddogion eraill.
Ar 么l y derbyniad mynychodd yr athletwyr gyflwyniad cyn dechrau cyfarfod y
Cyngor Sir yn Neuadd y Sir, yr Wyddgrug pan roddwyd tusw o flodau i鈥檙 ddwy
ohonynt gyda phawb yn codi ar eu traed i鈥檞 cymeradwyo.
Meddai Cadeirydd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Peter Curtis:
鈥淢ae鈥檔 anrhydedd enfawr cael croesawu鈥檙 athletwyr penigamp hyn i Neuadd y Sir
heddiw. Ar ran pawb yng Nghyngor Sir y Fflint, hoffwn ddiolch i鈥檙 ddwy ohonoch
am eich cyfraniad anhygoel i chwaraeon, nid yn unig yn genedlaethol ond hefyd
yn yr ardal leol.
Rydw i wrth fy modd fod Beverley, Sabrina a鈥檜 gwesteion wedi gallu ymuno 芒 ni
heddiw. Dydy hi ddim ond yn iawn fod y sir sy鈥檔 gartref iddynt yn cydnabod eu
llwyddiannau ac rwy鈥檔 llongyfarch y ddwy ohonynt yn wresog ar eu llwyddiant.