Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Masgot diogelwch ar safle adeiladu yn ymweld ag ysgol
Published: 25/10/2016
Mae 12 o dai cyngor newydd sy鈥檔 cael eu hadeiladu o dan fenter Rhaglen Tai ac
Adfywio Strategol (SHARP) y cyngor bron wediu cwblhau yng Nghei Connah, ar
safle hen Ysgol Custom House Lane. Maer safle yn gyfagos i Ysgol Caer Nant ac
mae partner tai strategol y Cyngor, Wates Residential, syn adeiladur cartrefi
newydd, wedi trefnu鈥檔 ddiweddar bod masgot y diwydiant adeiladu Ivor Good
Site鈥, yn ymweld 芒r ysgol i atgyfnerthur neges ddiogelwch o ba mor beryglus
gall chwarae ar safle adeiladu fod.
Tra roedd yn yr ysgol, cyflwynodd Ivor becynnau gwybodaeth i ddisgyblion, yn
tynnu sylw at y peryglon y gellir eu gweld ar safle adeiladu go iawn, ac o鈥檌
amgylch, a gwybodaeth am sut y gall plant aros yn ddiogel.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint;
鈥淓r fy mod wrth fy modd gyda chynnydd y tai cyngor newydd, maen bwysig bod
plant ar gymuned ehangach yn deall y peryglon ar risgiau o chwarae mewn
safleoedd adeiladu, ac o鈥檜 hamgylch. Rwyf yn falch iawn bod Wates Residential
yn amlwg yn cymryd eu cyfrifoldebau iechyd a diogelwch o ddifrif gyda鈥檙
cymunedau lleol, wrth ddylunio ac adeiladu eu datblygiadau.鈥
Dywedodd Lee Sale, Cyfarwyddwr Busnes, Wates Residential:
鈥淢ae 鈥業vor Good Site鈥 yn darparu ffordd greadigol ac atyniadol o addysgu plant
ynglyn 芒 pheryglon safleoedd adeiladu a sut y gall pobl aros yn ddiogel.
鈥淔el datblygwr dibynadwy, mae sicrhaur lefelau uchaf o ran safonau iechyd a
diogelwch ar ein safleoedd adeiladu yn parhau yn brif flaenoriaeth i ni. Drwy
gydweithion agos gydar cyngor, gallwn sicrhau lles y gymuned leol yn Sir y
Fflint a chreu amgylchedd o gylch ein prosiectau lle na chaiff unrhyw un
niwed.鈥
Nodyn i olygyddion
Yn y llun sy鈥檔 amgaeedig ceir athrawon a disgyblion Ysgol Caer Nant gyda鈥檙
masgot Ivor Goodsite, y Cyng. Aaron Shotton, Arweinydd y Cyngor (ar y chwith),
y Cyng. Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd y Cyngor a Mick Cunningham, Rheolwr
Safle Wates (ar y dde).