Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cystadleuaeth hamper Sir y Fflint - cyfle olaf i gystadlu!
Published: 06/08/2021
Mae鈥檙 fasged yn rhan o ymgyrch gan Gyngor Sir y Fflint i ddwyn sylw at gynhyrchwyr bwyd a diod y sir, a dangos i鈥檙 byd nad oes raid gadael Sir y Fflint i ganfod rai o鈥檙 cynhyrchion bwyd a diod mwyaf blasus.
Dewiswyd cynnwys y fasged leol yn dilyn ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol lle anogwyd trigolion Sir y Fflint i awgrymu pethau i鈥檞 cynnwys ynddi.
Yna ystyriwyd yr holl awgrymiadau gyda chymorth Naomi Spaven, sy鈥檔 rhedeg y cyfrif Instagram bwyd a diod Little Welsh Foodie, er mwyn dewis y chwech eitem derfynol.
Bydd enillwyr y gystadleuaeth yn derbyn y pethau canlynol:
鈥� Siytni ffa dringo (runner bean chutney) o Mostyn Kitchen Garden
鈥� Tarten jam o Fecws Hulsons yn Yr Wyddgrug听
鈥� Bara brown gan y pobydd Ian Purcell o Fynydd Isa
鈥� Teisen crychion mafon (raspberry ripple) gan Sandra鈥檚 Cakes o Rosesmor
鈥� Cyffug cartref (homemade fudge) o siop felysion Spaven鈥檚 yn Yr Wyddgrug
鈥� Ysgytlaeth (milkshakes) o Laethdy Mynydd Mostyn Dairy yn Nhrelogan.
Mae鈥檙 gystadleuaeth i ennill y fasged ddelfrydol yn agored tan 11.59 ddydd Gwener 6 Awst - HEDDIW!听Er mwyn i鈥檆h enw fod yn yr het rhaid dilyn cyfrifon Archwilio Sir y Fflint / Explore 天涯社区; dangos eich bod yn 鈥榟offi鈥欌�檙 post am y gystadleuaeth (trwy glicio 鈥榣ike鈥�) a rhannu neu dagio鈥檙 post i hyd at dri ffrind.
Bydd tair basged yn cael eu cynhyrchu fel rhan o鈥檙 ymgyrch a gofynnir i鈥檙 enillwyr gasglu eu gwobr o Lesters Farm Shop ym Mwcle.
Mae rhagor o wybodaeth am y gystadleuaeth ar gael yng nghyfrifon Archwilio Sir y Fflint / Explore 天涯社区 ar Instagram () a Facebook ().
听