Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Cyngor yn cyhoeddi eu partneriaeth tymor hir i gyflenwi fflyd cerbydau
Published: 20/10/2016
Yn dilyn ymarfer caffael manwl, mae Cyngor Sir Y Fflint wedi mynd i
bartneriaeth 7 mlynedd gyda Essential Fleet Services i gyflenwi a chynnal pob
un o鈥檌 300 neu fwy o fflyd cerbydau.
Bydd y trefniant newydd yn golygu y bydd Essential Fleet Services yn darparu
cyllid, rheoli fflyd a gwasanaeth cynnal llawn ar gyfer y fflyd cerbydau cyfan
y Cyngor o鈥檙 depo鈥檙 Cyngor yn Alltami yn Sir y Fflint.
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros
yr Amgylchedd:
鈥淏ydd y trefniant newydd yn galluogi鈥檙 Cyngor i fanteisio ar bartneriaeth gyda
chyflenwr fflyd brofiadol a fydd yn dod ag arbedion costau ac effeithlonrwydd
newydd i鈥檙 gwasanaeth yn ogystal 芒 darparu fflyd cerbydau gwell a modern. Bydd
yn sicrhau y bydd gennym y cerbydau cywir ar yr amser cywir i ddarparu鈥檙
gwasanaethau rheng flaen hanfodol y mae ein preswylwyr yn y Sir yn dibynnu
arnynt, ac edrychaf ymlaen at weithio gyda鈥檔 partner newydd yn ystod y
blynyddoedd nesaf.鈥
Dywedodd Ed Hummel, Cyfarwyddwr Gwerthiant yn Essential Fleet Services: 鈥淐yngor
Sir Y Fflint yw un o鈥檔 cwsmeriaid mwyaf bellach, ac rydym yn falch iawn o gael
gweithio gydag Awdurdod Lleol sydd mor flaengar. Mae鈥檙 cytundeb y bartneriaeth
newydd hon o鈥檙 raddfa debyg i鈥檔 partneriaeth gyda Chyngor Sir Swydd Lincoln yr
ydym wedi bod yn ei gynnal ers dros 40 mlynedd, a gobeithiwn y bydd hyn yn
ddechreuad o berthynas tymor hir tebyg gyda鈥檙 t卯m yn Sir Y Fflint.鈥
Mae Essential Fleet Services yn gwmni hurio a phrydlesu contract cenedlaethol
sydd wedi ffocysu ar gronfa cerbyd masnachol arbenigol, rhent a chynhaliaeth
tymor byr. Maent yn gweithredu rhwydwaith mewnol o 15 gweithdy wedi eu cefnogi
gan seilwaith cenedlaethol o ganolfannau gwasanaeth partner.
Mae Essential Fleet Services yn cyflenwi cerbydau arbenigol i dros 40 o
gynghorau yn y DU ar draws y gwasanaeth sector cyhoeddus, ac mae ganddynt
ledaeniad gwasgaredig o gleientiaid sector preifat yn y sectorau cyfleustodau.