天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwyddiant Gwyl Goleuadau

Published: 20/10/2016

Cynhaliwyd gwyl sy鈥檔 rhad ac am ddim sy鈥檔 gyfeillgar i deuluoedd o oleuadau yn cael eu taflunio, gwaith celf, cerddoriaeth a gweithgareddau yn Abaty Dinas Basing, Maesglas dydd Sadwrn 15 Hydref 2016. Bu i dros 130 o bobl, y mwyafrif yn blant, gymryd rhan i wneud lanterni symudol gydag artistiaid lleol. Cafodd y lanterni eu rhyddhau gan yr artistiaid Ben Davis a Judith Wood ar bwll melin ym Mharc Maesglas. Bu bron i 800 o bobl fwynhau pedair sioe gerdd acwstig byw ar dir yr Abaty. Daeth ymwelwyr 芒 phicnic gyda hwy neu aethant i鈥檙 caffi a鈥檙 barbeciw. Bu i lawer o bobl gymryd rhan mewn gorymdaith lanterni gyda鈥檙 hwyr ac yna mwynhau鈥檙 diweddglo o berfformiad dawns a thafluniadau. Cr毛wyd gosodiadau celf arbennig, darnau dawnsio, tafluniadau ffilm, cerddoriaeth a gweithdai gan NEW Dance, artisitiaid Ben Davis, Judith Wood, Rob Spaull, Ynyr Llwyd a Honor Pedican yn benodol ar gyfer yr wyl. Cyflawnwyd hyn drwy weithio gyda chyfranogwyr o wahanol gymunedau ar arfordir Sir y Fflint ac ysgolion mewn amrywiaeth o weithgareddau yn ystod mis Medi. Dywedodd y Cynghorydd Derek Butler, Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint: 鈥淩ydym yn falch iawn o gael dangos ein cymunedau amrywiol, deniadol a bywiog ar yr arfordir a threftadaeth gysylltiedig yn y modd hwn. Rwy鈥檔 siwr bod ymwelwyr i鈥檔 hardal arfordirol brydferth wedi mwynhau鈥檙 digwyddiad yn fawr a byddant yn dychwelyd yn y dyfodol i weld yr atyniadau llawn sydd gan Sir y Fflint i鈥檞 cynnig i ymwelwyr.鈥 Dywedodd llefarydd ar ran y Gronfa Loteri Fawr: 鈥淢ae Cymunedau鈥檙 Arfordir yn rhannu naws am le cryf, a bydd yr arian ar gyfer y digwyddiad hwn yn cael effaith bositif ar economir ardal leol ai chymunedau. Trefnwyd yr wyl gan y t卯m Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau Cyngor Sir Y Fflint gyda chefnogaeth ariannol gan y Gronfa Cymunedaur Arfordir a Cadw. Mae Cronfa Cymunedaur Arfordir wedi鈥檌 ariannu gan y Llywodraeth gydag incwm o asedau morol Yst芒d Y Goron. Mae鈥檔 cael ei gyflenwi gan y Cronfa Loteri Fawr ar ran Llywodraeth Y DU a鈥檙 Gweinyddiaethau Datganoledig yng Nghymru, Gogledd Iwerddon a鈥檙 Alban. Dywedodd Trefor Lloyd Roberts, Rheolwr Celfyddydau, Diwylliant a Digwyddiadau: 鈥淗offem ddiolch i bawb oedd wedi gwirfoddoli ac wedi gweithio ar y prosiect i wneud digwyddiad gwych, ac mae鈥檙 adborth a dderbyniwyd hyd yma wedi bod yn gadarnhaol iawn.鈥