Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Ein Sir y Fflint, Ein Dyfodol
  		Published: 14/10/2016
Mae gwasanaethau lleol a chyfleusterau cymunedol yn parhau i fod o dan 
fygythiad oherwydd y gostyngiadau mawr mewn gwariant cyhoeddus.
Mae Cyngor Sir y Fflint yn cynnal cyfres o gyfarfodydd ymgysylltu cyhoeddus 
ynglyn 芒r dyfodol. Yn y cyfarfodydd hyn, byddwn yn rhannu ein sefyllfa, yn 
egluro ein cynllun ac yn gofyn am eich cefnogaeth. 
Mae Sir y Fflint wedi addasu, moderneiddio a newid i ymdopi 芒 blynyddoedd 
olynol o ostyngiadau mawr yn ei gyllidebau. Er gwaethaf yr heriau o orfod 
gwneud mwy gyda llai, mae鈥檙 Cyngor a鈥檌 bartneriaid yn cadw eu huchelgeisiau o 
gael sir a rhanbarth blaengar a llewyrchus wedi鈥檜 cefnogi gan wasanaethau 
cyhoeddus o safon uchel.
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: 
 鈥淩ydym yn un or Cynghorau sy鈥檔 cael y lleiaf o arian yng Nghymru ac mae鈥檙 
lefel ariannu isel hwn ar y cyd ag effeithiau parhaus  agenda caledi鈥檙 DU yn 
ein gwneud yn agored i lefelau o bwysau ariannol hynod o uchel.
 鈥淒ros y 4 blynedd diwethaf, mae Sir y Fflint wedi bod yn greadigol wrth 
dderbyn toriadau cyllidebol drwy gynllunio gofalus, bod yn effeithlon, canfod 
datrysiadau arloesol a lleihau costau swyddfa gefn i ddiogelu gwasanaethaur 
rheng flaen. Mae鈥檙 Cyngor wedi cyrraedd 鈥榯robwynt鈥 yn awr lle y bydd 
gwasanaethau yn wynebu toriadau mawr os na chawn rywfaint o gymorth gan 
Lywodraeth Cymru.鈥 
Rydym yn eich gwahodd i fynychu un o saith o ddigwyddiadau ymgysylltu cyhoeddus 
a gynhelir mewn lleoliadau ledled y Sir gan ddechrau ar 1 Tachwedd.  
Bydd y digwyddiadau o 6:30pm tan 8:30pm yn y mannau canlynol:  Mae鈥檙 niferoedd 
yn gyfyngedig i 200 ym mhob lleoliad: 
1 Tachwedd: Ysgol Mountain Lane, Bwcle 
7 Tachwedd: Ysgol Gwynedd, y Fflint 
8 Tachwedd: Ysgol Bryn Coch, yr Wyddgrug
10 Tachwedd: Ysgol Maes y Felin, Treffynnon
14 Tachwedd: Ysgol Gynradd Sirol Sandycroft
15 Tachwedd: Ysgol Gynradd Sirol Brychdyn
21 Tachwedd: Ysgol Caer Nant, Cei Connah 
Gallwch gofrestru ar-lein ar www.siryfflint.gov.uk/ECEG neu drwy ffonio ein 
llinell gofrestru ar 01352 701701 rhwng 9am a 5pm, ddydd Llun i ddydd Gwener.