Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Lliwgar a Llachar Ddydd a Nos 
  		Published: 14/10/2016
鈥楤yddwch yn ddiogel yn y tywyllwch鈥 yw鈥檙 neges glir gan d卯m Diogelwch ar y 
Ffyrdd Cyngor Sir y Fflint wrth ir gaeaf agos谩u. 
Er bod rhai o ffyrdd mwyaf diogel y byd yn y DU, yn anffodus, cafodd 249 o 
gerddwyr a 138 o feicwyr eu lladd neu eu hanafu鈥檔 ddifrifol ar ffyrdd Cymru yn 
2014. Maen rhaid i bawb gyfranogi i gadw eu hunain ac eraill yn ddiogel. 
Mae鈥檙 t卯m yn atgoffa cerddwyr, rhedwyr, beicwyr a beicwyr modur ei bod yn 
bwysig bod modd i yrwyr eu gweld, yn enwedig yr adeg hon o鈥檙 flwyddyn.
Dyma ychydig o gyngor cyffredinol: 
路 Os ydych yn gwisgo dillad tywyll, cariwch fag siopa gwyn i wella gwelededd 
neu gallech brynu bandiau braich syn fflachio ac ategolion addas eraill. 
路 Gallai cario eich ff么n gyda鈥檙 sgrin wedi鈥檌 goleuo tuag at y gyrwyr sy鈥檔 
teithio tuag atoch eu cynorthwyo i鈥檆h gweld yn y tywyllwch, yn enwedig mewn 
ardaloedd gwledig neu ardaloedd heb lawer o olau. 
路 Ar gyfer beicwyr, os ydych chi鈥檔 beicio fin nos, maen rhaid i chi osod golau 
gwyn ar y blaen a golau coch ar y cefn.  Mae鈥檔 rhaid i chi gael adlewyrchydd 
coch ar y cefn ac adlewyrchyddion oren ar y pedalau.  Bydd adlewyrchyddion 
blaen gwyn ac adlewyrchyddion ar y sb么cs yn eich helpu i gael eich gweld hefyd.
路 Os ydych chi鈥檔 gyrru cerbyd, gyrrwch ar gyflymder addas a rhoi digonedd o le 
i feicwyr, a cherddwyr os nad oes llwybr troed, wrth i chi eu goddiweddyd. 
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Aelod Cabinet Cyngor Sir y Fflint dros 
yr Amgylchedd:
 鈥淢ae gan bawb sy鈥檔 defnyddio鈥檙 ffordd gyfrifoldeb dros rannu鈥檙 lle ar y ffordd 
yn ddiogel.  Sicrhewch fod modd i ddefnyddwyr eraill ar y ffordd eich gweld, ac 
mae hyn yn hanfodol yn ystod adeg yma鈥檙 flwyddyn pan mae鈥檙 golau鈥檔 wael a gall 
gwelededd newid mewn eiliadau oherwydd y tywydd.鈥