Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Datblygiad tai newydd yn gweithio gyda busnesau lleol 
  		Published: 14/10/2016
Mae Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol Cyngor Sir y Fflint yn cael effaith 
gadarnhaol ar fusnesau bach lleol yn y sir. 
Mae鈥檙 rhaglen yn adeiladu tai cyngor a thai fforddiadwy newydd ar draws Sir y 
Fflint. 
Mae鈥檙 contractwr a benodwyd gan y Cyngor, Wates Living Space, yn cynnal 
digwyddiad fydd yn darparu cyfle i fusnesau bach lleol ganfod mwy am y 
datblygiadau tai newydd hyn gyda鈥檙 nod o gael eu cyflogi fel isgontractwyr.  
Mae croeso i鈥檙 holl fusnesau bach lleol sy鈥檔 ymwneud 芒鈥檙 diwydiant adeiladu ac 
sydd wedi鈥檜 lleoli yn Sir y Fflint ymweld 芒 Swyddfa Safle Wates yn y Walks 
(oddi ar Ffordd Caer), y Fflint ddydd Llun 24 Hydref 2016 rhwng 9am a 6pm i 
gael rhagor o wybodaeth.  Estynnir gwahoddiad i鈥檙 holl feysydd adeiladu gan 
gynnwys penseiri, peintwyr ac addurnwyr, tirlunwyr, gosodwyr brics a 
chontractwyr eraill. 
Dywedodd y Cynghorydd Aaron Shotton, Arweinydd Cyngor Sir y Fflint: 
鈥淢ae nifer o fusnesau lleol wedi elwa o weithio gyda ni eisoes, o ganlyniad i鈥檙 
bartneriaeth lwyddiannus rhwng y Cyngor a Wates. Mae cam nesaf ein rhaglen 
SHARP yn rhoi cyfleoedd i fusnesau lleol eraill gymryd mantais o hyn, waeth pa 
mor fawr ydyn nhw.
Dywedodd y Cynghorydd Helen Brown, Aelod Cabinet dros Dai Cyngor Sir y Fflint:
 鈥淵n ogystal 芒 darparu tai fforddiadwy o ansawdd, rydym yn awyddus i gynhyrchu 
cyfleoedd cyflogaeth drwy ddefnyddio busnesau lleol fel rhan o gam adeiladu鈥檙 
Rhaglen Tai ac Adfywio Strategol.   Byddwn yn annog busnesau bach yn y 
diwydiant adeiladu i fynychu鈥檙 digwyddiad hwn i gael rhagor o wybodaeth ac i 
weld sut y gallant gyfranogi.