Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Y Cyngor yn cefnogi codi ymwybyddiaeth o droseddau casineb 
  		Published: 14/10/2016
Mae Cyngor Sir y Fflint yn cefnogi ymgyrch cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar 
gyfer 鈥淲ythnos Ymwybyddiaeth o Droseddau Casineb鈥 a gynhelir o 8 i 15 Hydref. 
Roedd swyddogion y Cyngor yng Ngholeg Cambria yn ddiweddar i godi ymwybyddiaeth 
ac annog pobl i adrodd am droseddau casineb. Roeddent hefyd yn hyrwyddo鈥檙 
gwasanaethau cymorth ac adnoddau sydd ar gael yn lleol.
Trosedd casineb yw trosedd yn erbyn unigolyn neu grwp o bobl ar sail eu 
hunaniaeth neu eu gwahaniaeth canfyddiedig. Gall fod yn weithred o drosedd, 
gelyniaeth neu wahaniaethu. Efallai y bydd dioddefwyr wedi cael eu bwlio, eu 
haflonyddu neu eu cam-drin oherwydd pwy ydynt, eu rhywioldeb, eu rhyw, crefydd, 
ethnigrwydd neu ddewis ffordd o fyw. 
Gall y drosedd fod ar lafar, ar ffurf graffiti tramgwyddus, bygythiadau, difrod 
i eiddo, ymosodiad, seibr-fwlio, negeseuon testun sarhaus, negeseuon e-bost neu 
alwadau ff么n.
Dywedodd y Cynghorydd Kevin Jones, Aelod Cabinet Strategaeth Wastraff, Gwarchod 
y Cyhoedd a Hamdden:
 鈥淒erbynnir yn gyffredinol nad oes digon o adrodd am achosion o droseddau 
casineb a gall gael effaith sylweddol ar ei ddioddefwyr, a ni ddylent orfod 
dioddef yn dawel. Er bod lefelau troseddau casineb yn eithaf isel yn y sir, 
rwyn falch o weld ein bod yn gweithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru 
a Heddlu Gogledd Cymru i godi proffil y mater pwysig a pherthnasol hwn. 
 鈥淵n 么l gwybodaeth gan Heddlu Gogledd Cymru, dros y 12 mis diwethaf, mae 30 o 
ddigwyddiadau wedi鈥檜 hadrodd a 26 yn y 12 mis blaenorol. Rydym yn gwybod nad yw 
pob achos yn cael ei adrodd, ac felly dyna pam fod angen i ni godi hyder i 
adrodd amdanynt. 
Fel aelodau gweithgar o鈥檙 Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol, mae鈥檙 Cyngor yn 
gweithio鈥檔 agos gydar Heddlu, y Bwrdd Iechyd, y Gwasanaeth Prawf, y Gwasanaeth 
T芒n a sefydliadau鈥檙 sector gwirfoddol, mewn ymdrech i godi ymwybyddiaeth o 
droseddau o鈥檙 fath, ac i hyrwyddo mwy i adrodd am yr achosion. Mae鈥檙 Cyngor 
hefyd yn cydymffurfio 芒 鈥楩framwaith Gweithredu- Mynd i鈥檙 afael 芒 Throseddau a 
Digwyddiadau Casineb鈥 Llywodraeth Cymru, sy鈥檔 amlinellu eu strategaeth i fynd 
i鈥檙 afael 芒 Throseddau Casineb yng Nghymru. 
Dylid rhoi gwybod am achosion o Drosedd Casineb drwy ffonio Heddlu Gogledd 
Cymru ar 101 (999 mewn achos o argyfwng) neu system adrodd Cymorth i 
Ddioddefwyr drwy ffonio eu llinell gymorth 24 awr am ddim ar 0300 30 31 982 neu 
ar-lein www.reporthate.victimsupport.org.uk   Mae Cymorth i Ddioddefwyr hefyd 
yn darparu cymorth wedi鈥檌 dargedu ar gyfer rhai sy鈥檔 dioddef trosedd casineb. 
	
Or chwith ir dde: PC Gary Robertshaw, Gerwyn Davies CSFf, Greg George- HGC, 
Christine Dykins CSFf, Cyng Kevin Jones, Tom Williams CSFf, Sian Jones CSFf, 
Mandy Burrows CBSW, PCSO Dan Kelly.