Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Cynllun Cydraddoldeb Strategol
  		Published: 13/10/2016
Mae angen i bob awdurdod lleol yng Nghymru lunio a chyhoeddi amcanion 
cydraddoldeb pob 4 blynedd. Yn ei gyfarfod nesaf, bydd gofyn i Gabinet Cyngor 
Sir y Fflint gytuno ar ail Gynllun Cydraddoldeb Strategol (CCS) y Cyngor cyn ei 
gyhoeddi.
Yn 2012, cytunodd y Cyngor ar ei CCS cyntaf, ac fe osodwyd 6 amcan lefel uchel 
fel a ganlyn:
鈥 Lleihau anghydraddoldebau iechyd
鈥 Lleihau canlyniadau anghyfartal mewn addysg er mwyn gwneud y gorau o 
botensial unigolion
鈥 Lleihau anghydraddoldeb o ran cyflogaeth
鈥 Lleihau anghydraddoldeb o ran diogelwch personol
鈥 Lleihau anghydraddoldeb o ran cynrychiolaeth a llais
鈥 Lleihau anghydraddoldeb o ran cael gafael ar wybodaeth a gwasanaethau, 
adeiladau ar amgylchedd.
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol 
Cyngor Sir y Fflint:
鈥淩ydym yn falch o gyhoeddir cynllun hwn syn rhoi manylion am yr amcanion, y 
camau gweithredu ar targedau y byddwn yn ymgymryd 芒 nhw yn ystod y pedair 
blynedd nesaf ac sy鈥檔 nodir dystiolaeth ar resymeg y maer amcanion wedi鈥檌 
seilio arnynt. Cytunwyd y dylid cadw鈥檙 un amcanion 芒鈥檙 rhai a sefydlwyd yn 
2012. Mae llawer o waith i鈥檞 wneud eto. Nid oes modd  lleihau anghydraddoldeb 
sydd wedi gwreiddio鈥檔 ddwfn mewn cyfnod byr ac maen rhaid parhau er mwyn 
sicrhau ein bod yn  gweld canlyniadau dros gyfnod hwy. Dyma oedd barn y 
rhanddeiliaid allweddol wrth i ni ymgynghori 芒 nhw.鈥
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett:
 鈥淩ydym wedi gweithio mewn partneriaeth 芒鈥檙 holl gyrff cyhoeddus ar draws 
Gogledd Cymru ac rydym yn falch bod aelodaeth Rhwydwaith Cydraddoldeb Sector 
Cyhoeddus gwreiddiol Gogledd Cymru wedi tyfu ac yn cynnwys Coleg Cambria  a 
Phrifysgol Glyndwr. Mae gweithio mewn partneriaeth yn bwysig yn y cyfnod 
ariannol anodd hwn, ond mae hefyd yn helpu  i nodi amcanion cydraddoldeb 
cyffredin.鈥