Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Adroddiad Perfformiad Blynyddol 
  		Published: 13/10/2016
Bydd perfformiad Cyngor Sir y Fflint yn ystod 2015-16 yn cael ei drafod mewn 
cyfarfod Cabinet ddydd Mawrth 18 Hydref cyn cyhoeddi Adroddiad Perfformiad 
Blynyddol y Cyngor.
Mae鈥檙 adroddiad yn adlewyrchur cynnydd da a wnaed ar y cyfan yn erbyn 
blaenoriaethau a nodwyd yng Nghynllun Gwella 2015/16, ac maen crynhoi 
cyflawniadaur sefydliad. Mae Sir y Fflint yn parhau i fod yn Gyngor sy鈥檔 cael 
ei lywodraethun dda ac yn perfformion uchel. Mae ein perfformiad da cyson 
wedi cael ei gydnabod yn lleol ac yn genedlaethol.
Nodir rhai o鈥檙 llwyddiannau isod:
路 Gweithio mewn partneriaeth 芒 chymdeithasau tai lleol i ddatblygu cynlluniau 
gofal ychwanegol ledled y sir 鈥 Llys Jasmine yn y Wyddgrug, Llys Raddington a 
thrydydd un yn Nhreffynnon.
路 Lleihau rhestrau aros ar gyfer therapi galwedigaethol gyda thros 90 y cant o 
bobl yn teimlo bod 鈥渆u hanghenion wedi鈥檜 diwallu鈥檔 llawn鈥.
路 Y gyfradd boddhad cyffredinol uchaf am addysg gan Awdurdod Lleol 
(Ffynhonnell: Arolwg Cenedlaethol Cymru).
路 Sefydlu cwmni rheoli eiddo or enw Cartrefi Gogledd-ddwyrain Cymru er mwyn 
ariannu datblygu mwy o dai fforddiadwy.
路 Cyd-leoli鈥檙 t卯m cyntaf erioed o Weithwyr Cymdeithasol, Therapyddion 
Galwedigaethol a Nyrsys Ardal yn Ysbyty Cymunedol Treffynnon.
路 Creu Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd er mwyn cynorthwyo鈥檙 teuluoedd 
sydd fwyaf agored i niwed.
路 Cyd-ariannu ac adeiladu Campws Dysgu Treffynnon a鈥檙 ganolfan 脭l-16 yng 
Ngholeg Cambria.
路 99.6% o bobl 16 oed mewn addysg, gwaith neu hyfforddiant (y nifer uchaf a 
gyrhaeddwyd erioed) ar ddiwedd
2014.
路 Creu 1,012 o swyddi newydd yn Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy yn 2015/16 ac 838 
yn 2013/14.
路 Cyflawni statws 鈥榗yfeillgar i ddementia鈥 mewn tair tref 鈥 y Fflint, Bwcle a鈥檙 
Wyddgrug.
Dywedodd Prif Weithredwr Cyngor Sir y Fflint, Colin Everett: 
鈥淢ae鈥檙 Cyngor yn parhau i berfformion arbennig o dda yn erbyn ei amcanion, gan 
wneud cynnydd da neu foddhaol ym mhob un ohonynt.
Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet dros Reolaeth Gorfforaethol:
 鈥淢aer Cyngor wedi profi unwaith eto ei fod yn sefydliad syn perfformion 
dda, gan osod targedau a chyrraedd y blaenoriaethau a nodwyd yn y Cynllun 
Gwella. Mae hyn wedi鈥檌 atgyfnerthu gan sylwadau鈥檙 Archwilydd Cyffredinol a 
ddywedodd fod y Cyngor wedi parhau i wella ei berfformiad, yn wyneb pwysau 
ariannol cynyddol.鈥
Mae鈥檔 rhaid cyhoeddi鈥檙 Adroddiad erbyn 31 Hydref, ac yng nghyfarfod Cyngor y 
Sir ar 19 Hydref bydd gofyn i鈥檙 cynghorwyr  gymeradwyo鈥檙 adroddiad i gael ei 
gyhoeddi.