Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Parcio o gwmpas ysgolion
  		Published: 11/10/2016
Mae Cyngor Sir y Fflint yn ymchwilio i fesurau i wella diogelwch defnyddwyr y 
ffyrdd yn yr ardaloedd o gwmpas ysgolion, yn enwedig  lle mae pryderon ynghylch 
diogelwch yn cael eu creu gan gerbydau wedi parcio. Maer mesurau yn dod fel 
rhan o ymrwymiad yr awdurdod i wella diogelwch defnyddwyr ffyrdd mwyaf 
diamddiffyn Sir y Fflint.  Maer Cyngor yn bwriadu cyflwyno cais i Lywodraeth 
Cymru am gyllid i gefnogi mesurau diogelwch ar y ffyrdd peilot y tu allan i 
nifer o ysgolion yn y Sir yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf. 
Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd Cyngor Sir y Fflint:
鈥淒iogelwch ar y Ffyrdd tu allan i ysgolion yw un on blaenoriaethau allweddol a 
bydd y cynigion hyn yn helpu i sicrhau diogelwch plant ysgol yn y sir, ac 
edrychaf ymlaen at ganlyniad llwyddiannus ir cais.鈥