天涯社区

Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Llwyddiant 10fed pen-blwydd Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy

Published: 07/10/2016

Cafodd 10fed Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy, syn ymestyn ar hyd yr arfordir yng Nghymru ac yn Lloegr, ei ganmol fel llwyddiant mawr gan Geidwaid Sir y Fflint ar cymunedau arfordirol. Daeth grwpiau o bob rhan o Orllewin Swydd Gaer a Gogledd Cymru at ei gilydd i nodir achlysur. Roedd digwyddiad blynyddol Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy, a drefnir gan Gyngor Sir y Fflint, Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chyngor Caer, Asiantaeth yr Amgylchedd, Cadwch Gymru鈥檔 Daclus a Chyfoeth Naturiol Cymru, yn fwy ac yn well nag erioed ar gyfer ei ben-blwydd yn 10 oed. Dywedodd y Cynghorydd Bernie Attridge, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd: Roedd Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy eleni yn llwyddiant ysgubol a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith caled o wneud y cyfan yn bosibl.鈥 Maen enghraifft go iawn o weithio mewn partneriaeth yn llwyddiannus ac rwyf wrth fy modd o fod yn rhan o hyn. Roedd yn ymdrech wych gan bawb a gymerodd rhan. Cymerodd gannoedd o wirfoddolwyr o ysgolion, grwpiau cymunedol, sefydliadau a busnesau ran yn yr wythnos o ddigwyddiadau o ddydd Mawrth 13 i ddydd Sul 18 Medi i lanhau a gwella dalgylch y Ddyfrdwy. Canlyniad y gwaith gwych a wnaed yn ystod yr wythnos, ar hyd yr arfordir o Brestatyn i Gaer, yw: 路 Casglwyd 272 bag o sbwriel 路 Plannwyd dros 10,000 o fylbiau 路 Symudwyd 40 teiar 路 Paentiwyd wyth mainc 路 Nodwyd 2 fater gwastraff mawr yn ogystal 芒 sawl risg llygredd llai. Dywedodd Ceidwad Sir y Fflint, Tim Johnson: 鈥淩oedd gennym wirfoddolwyr o McDonalds, Sgowtiaid Treffynnon, Kingspan, Sefydliad Cenedlaethol Brenhinol y Badau Achub, Ysgol Uwchradd Cei Connah, Coleg Llysfasi, Groundworks, Sustrans, Airbus a llawer mwy. Ni fyddai鈥檙 digwyddiad hwn yn llwyddiant heb y gefnogaeth wych yr ydym yn ei derbyn. Eleni cafwyd cyfranogaeth newydd gan Warwick Chemicals, Toyota a鈥檙 sefydliad 鈥 University of the 3rd Age. Mae hyn yn dangos fod y digwyddiad yn parhau i dyfu a gwella. Gweithiodd 120 o wirfoddolwyr o Tesco ar hyd a lled chwe sir - Sir y Fflint, Caer, Sir Ddinbych, Wrecsam, Swydd Amwythig, Gwynedd - a gosod llwybr troed newydd, clirio nant, plannu bylbiau, codi sbwriel a chlirio nifer fawr o blanhigion rhododendron. Cynhaliwyd dathliad arbennig i nodi 10fed pen-blwydd y digwyddiad ym Mharc Edgar鈥檚 Field yn Handbridge, Caer ddydd Sadwrn,17 Medi, yn cynnwys gweithgareddau a stondinau oedd yn gysylltiedig 芒r afon ai chymunedau, yn y gorffennol ar presennol. Cefnogwyd y digwyddiad gan nawdd gan Kingspan, Presthaven Sands, Abakhan a fan hufen i芒 Rays Whippy. Mae Diwrnod Mawr y Ddyfrdwy wedi bod yn ddigwyddiad blynyddol ers 2007. Dechreuodd y syniad gyntaf ar draeth Talacre pan benderfynodd Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir y Fflint a鈥檙 partneriaid BHP Billiton, Presthaven Sands, Clwb Traeth Talacre, y gymuned leol a Chyfoeth Naturiol Cymru gynnal arolwg or traeth i helpu tynnu sylw at sbwriel morol ar niwed y gall ei achosi. Ers hynny, mae Cyngor Gorllewin Swydd Gaer a Chaer, Cyngor Sir Ddinbych, Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, Cyngor Bwrdeistref Cilgwri, Asiantaeth yr Amgylchedd a Pharc Cenedlaethol Eryri, yn ogystal 芒 llawer o wirfoddolwyr a busnesau lleol eraill - gan gynnwys Airbus, Kingspan a Kimberley Clark - hefyd wedi cymryd rhan ac maer digwyddiad wedi mynd o nerth i nerth. Cr毛wyd fideo i ddathlu 10 mlynedd o gynnal y digwyddiad hwn y gellir ei ganfod ar http://bit.ly/big-dee-HD - (fersiwn ansawdd uchel) neu http://bit.ly/big-dee-tablet - (HD llawn ond ffeil llai) Os hoffai unrhyw unigolion, cwmn茂au, grwpiau neu sefydliadau gymryd rhan y flwyddyn nesaf yna cysylltwch 芒 Gwasanaethau Cefn Gwlad Sir y Fflint ar 01352 703900.