Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
  		Holiadur i Asesu a Oes Digon o Ofal Plant yn Sir y Fflint 2017-2021
  		Published: 05/10/2016
Beth yw’r holiadur hwn i asesu a oes digon o ofal plant yn Sir y Fflint? 
Bob pum mlynedd, rhaid i Gyngor Sir y Fflint gwblhau darn o waith i ‘asesu a 
oes digon o ofal plant yn y sir.’
Mae hyn yn golygu:
Bod gwybodaeth yn cael ei chasglu i ddangos:
•          Ble mae plant yn byw yn Sir y Fflint
•           Pa ofal plant sydd ar gael yn yr ardaloedd hyn yn Sir y Fflint
•           Faint o blant sydd yn y llefydd gofal plant hyn
•           Faint o lefydd sydd heb eu llenwi
•           Ble mae’r bylchau
•           Beth mae rhieni’n ei feddwl
•           A yw’r gofal plant yn diwallu anghenion rhieni 
•           Beth sy’n rhwystro rhieni rhag defnyddio gofal plant
•           Sut y gellid gwell gofal plant yn Sir y Fflint
Dyma’ch cyfle chi i helpu!
Dyma sut y medrwch chi helpu. Mae’r holiadur a ganlyn wedi’i baratoi i gael 
ateb i’r cwestiynau hyn a gweld beth rydych chi, fel rhieni / gotalwyr, yn ei 
feddwl!
A fyddech cystal â threulio munud neu ddau yn ateb rhai o’r cwestiynau am eich 
gofal plant neu am y rheswm pam nad ydych yn defnyddio gofal plant. Yna gallwn 
adeiladu darlun o anghenion a barn rhieni / gofalwyr ledled Sir y Fflint. Po 
fwyaf o ymatebion a gawn po fwyaf o siawns sydd gennym o greu darlun cywir! 
Gallwch lenwi’r holiadur ar-lein ar: 
https://www.surveymonkey.co.uk/r/FISParentalSurvey
Os hoffech holiadur ar fformat arall neu os hoffech drafod eich atebion 
ffoniwch y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd ar 01352 703500.
Treuliwch funud o ddau i lenwi’r holiadur.